Newyddion S4C

Dod o hyd i fwnci oedd ar goll am bum diwrnod yn Yr Alban

01/02/2024
MWNCI

Mae mwnci oedd ar goll am fwy na phum diwrnod yn Yr Alban wedi cael ei ddarganfod. 

Y gred yw bod y mwnci macaque Japaneaidd wedi dianc o barc bywyd gwyllt Kingussie a hynny o ganlyniad i densiynau gyda mwncïod eraill yn gynharach yn yr wythnos. 

Gofynnodd y parc bywyd gwyllt i bobl leol i gadw unrhyw fwyd neu wastraff bwyd tu fewn i’w tai, er mwyn annog y mwnci i ddychwelyd i’r parc pan fyddai yn llwglyd.

Mae’r sw yn cadw grŵp mawr o’r mwncïod, wedi iddyn nhw eu bridio yn llwyddiannus.

Cafodd y mwnci ei ddarganfod fore Iau, ychydig filltiroedd o'r parc ac mae bellach yn cael profion gan eu staff.

Dywedodd Keith Gilchrist, rheolwr casgliadau byw y parc: “Gallwn gadarnhau ein bod wedi dal y macaque o'r enw Honshu a ddihangodd o’r parc ddydd Sul.

“Ar ôl galwad i’n llinell gymorth toc ar ôl 10am, fe wnaeth ein ceidwaid a’n tîm dronau eu ffordd i ardd aelod o’r cyhoedd lle’r oedd y mwnci yn bwyta o fwydwr adar a saethu dart yn llwyddiannus i’w ddal.

“Mae’r mwnci ar y ffordd yn ôl i’r parc gyda’n ceidwaid lle bydd un o’n tîm o filfeddygon yn edrych arno ac yn ei ail-gyflwyno i'r grŵp.

“Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi helpu yn ystod y broses a byddwn yn parhau i rannu unrhyw ddiweddariadau pellach.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.