Gwyliwch: Plentyn yn mynd yn sownd ar ôl ceisio bachu tegan o beiriant arcêd
Mae plentyn tair oed wedi cael ei achub o beiriant teganau mewn arcêd yn Awstralia ar ôl iddo fynd yn sownd.
Roedd Ethan a'i deulu yng nghanolfan siopa Capalaba ger Brisbane ddydd Sadwrn pan ddringodd i fewn i'r peiriant.
Ceisiodd swyddogion heddlu roi cyfarwyddiadau iddo fynd i gornel cefn y peiriant fel y gallant dorri panel blaen y gwydr i'w ryddhau.
Inline Tweet: https://twitter.com/QldPolice/status/1752838440142725168?s=20
Fe wnaeth swyddog godi'r plentyn yn ofalus allan o'r peiriant, gydag Ethan hyd yn oed yn cael dewis pa degan oedd o am ei gael cytn mynd.
Dywedodd tad Ethan ei fod wedi cymryd eiliadau yn unig i'w fab wneud ei ffordd i fewn i'r bocs gwydr.
Dywedodd Heddlu Queensland nad oedd y plentyn "mewn unrhyw frys i ddod allan".