Swyddfa'r Post: Alan Bates yn gwrthod cynnig iawndal ‘sarhaus a chreulon’ y llywodraeth
Mae cyn is-bostfeistr o Landudno wedi gwrthod cynnig “sarhaus a chreulon” Llywodraeth y DU am iawndal.
Dywedodd Alan Bates a arweiniodd yr ymgyrch am gyfiawnder yn erbyn Swyddfa'r Post bod y cynnig chwe gwaith yn llai na’r hyn yr oedd wedi ei ddisgwyl.
Fe ddaw wrth i gyfres deledu ITV newydd, Mr Bates vs the Post Office, ddilyn ei frwydr bersonol i fynd at wraidd cannoedd o gyhuddiadau o ladrata yn erbyn is-bostfeistri ledled y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu talu “iawndal llawn a theg” i’r rheini a gafodd eu heffeithio gan sgandal technoleg Horizon.
Ond dywedodd Alan Bates wrth bapur newydd y Telegraph: “Efallai mai llawn a theg yw dehongliad Llywodraeth Ei Fawrhydi, ond mewn gwirionedd mae’r cynnig yn un digalon, yn sarhaus ac wedi’r holl amser, yn greulon.
“Rydw i’n bwriadu gwrthod yn llwyr y cynnig am iawndal ariannol.
"Mae’n ffordd ofnadwy o drin pobl - ac rydw i wedi clywed gan sawl is-bostfeistr sydd wedi derbyn cynigion dirmygus tebyg, tra bod eraill yn dal i aros."
Rhwng 1999 a 2015, cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn wedi i raglen gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon nodi bod arian wedi diflannu o'u canghennau.
Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes system gyfreithiol y DU.
Llun: ITV.