Newyddion S4C

Arweinydd Plaid Cymru i amlinellu 'taith tuag at annibyniaeth'

31/01/2024
Rhun ap Iorwerth

Mae disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru gyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mercher bod angen i Gymru gymryd camau ar ei thaith tuag at annibyniaeth gan gofleidio pwerau pellach ym maes plismona, cyfiawnder a lles cymdeithasol. 

Bydd Rhun ap Iorwerth yn amlinellu gweledigaeth ei blaid mewn araith yng nghanolfan yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. 

Mae disgwyl iddo ddweud fod Cymru "ar daith – mae annibyniaeth yno i ni ei hennill, ond mae'n rhaid cymryd camau i gryfhau Cymru yn syth."

Bydd yn areithio wedi i adroddiad terfynol y Comisiwn Cyfansoddiadol gael ei gyhoeddi ar 18 Ionawr. Yn ôl casgliadau'r ddogfen honno, dyw'r drefn bresennol ddim yn sylfaen ar gyfer sefydlogrwydd a ffyniant y genedl.

Mae'r adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cynnig tri opsiwn – annibyniaeth, system ffederal ac ehangu datganoli.  

'Ffynnu' 

Mae disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru alw ar i’r gwaith hwnnw o  ddadansoddi opsiynau a pharatoi ar gyfer newid cyfansoddiadol barhau.

Annibyniaeth yw cyfle Cymru i ”ffynnu,” yn ôl Rhun ap Iorwerth.  

“Mae’r gallu i adeiladu’r Gymru decach y mae Plaid Cymru yn ei cheisio yn mynd law yn llaw â newid cyfansoddiadol," meddai.

 “Roedd adroddiad y Comisiwn yn torri tir newydd. Roedd yn cydnabod bod y status-quo yn anghynaladwy a dangosodd fod annibyniaeth yn nod terfynol realistig a chyraeddadwy.

“Rwyf wedi dweud ers tro mai taith yw annibyniaeth. Mae penllanw’r daith yn un rwyf yn amlwg yn dyheu am ei chyrraedd mor gynnar ag y gallwn, gan fy mod i’n argyhoeddedig mai dyna pryd y gall Cymru ddechrau ffynnu mewn gwirionedd, ond rhaid inni fynd ar y daith honno gyda’n gilydd fel cenedl.

“Rydyn ni’n gwybod mai nid dyma’r cystal ag y gallai pethau fod i Gymru. Ni fyddwn fyth yn rhoi’r gorau i ddadlau’r achos dros fwy o bwerau, nac am ddefnydd a gwell defnydd ohonynt.

“Does gen i ddim amheuaeth bod dyddiau gorau Cymru i ddod – bod gennym ni’r sgiliau, y dyfeisgarwch a’r creadigrwydd i lwyddo fel cenedl annibynnol, ac y bydd annibyniaeth yn rhoi’r arfau i ni gyflwyno’r math o ffyniant sy’n cael ei wrthod i ni gan ein haelodaeth yr Undeb."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.