Pleidleisio o blaid 'y cam cyntaf' i gyflwyno newidiadau i Senedd Cymru
Pleidleisio o blaid 'y cam cyntaf' i gyflwyno newidiadau i Senedd Cymru
Mae'r Senedd ym Mae Caerdydd wedi pleidleisio o blaid y cam cyntaf i gyflwyno newidiadau mawr i sut bydd Senedd Cymru yn cael ei hethol, a niferoedd yr aelodau.
Prif ddiben y mesur oedd cynyddu nifer Aelodau’r Senedd o 60 i 96, a chyflwyno system newydd o bleidleisio.
Dywedodd Daniel Davies ar raglen Newyddion S4C nos Fawrth bod anghytundeb amlwg.
“Roedd y gwahaniaeth barn yn amlwg iawn yn ystod y ddadl. Llywodraeth Lafur Mark Drakeford gyda chefnogaeth Plaid Cymru sydd wedi cyhoeddi’r ddeddf i ehangu maint y Senedd achos bod grym y sefydliad wedi tyfu ar hyd y blynydde ond bod nifer yr aelodau heb gynyddu," meddai.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dadlau yn erbyn y cynllun gan ddweud ei fod yn wastraff arian.
Roedd yna ddadlau hefyd ar newidiadau wrth ethol Aelodau'r Senedd ac nid oedd rhai ASau o blaid y newid hwn.
“Mae rhai aelodau’n dweud eu bod nhw’n ddryslyd ac mae rhai arweinwyr wedi dweud y gallai arwain at lai o bobl yn ymddiried yn y broses wleidyddol," meddai Daniel Davies ar raglen Newyddion.