Ymdrech i ddod o hyd i fwnci sydd wedi dianc yn Yr Alban yn parhau
Mae swyddogion sydd yn ceisio dod o hyd i fwnci sydd ar goll o barc bywyd gwyllt yn yr Alban wedi defnyddio drôn gyda delweddau thermol er mwyn ceisio ei ddarganfod.
Y gred yw bod y mwnci macaque Japaneaidd wedi dianc o Kingussie a hynny o ganlyniad i densiynau gyda mwncïod eraill.
Dywedodd Cymdeithas Sŵolegol Frenhinol yr Alban (RZSS) bod ei cheidwaid yn ymateb i adroddiadau bod y mwnci wedi ei weld fore dydd Mawrth.
Gofynnodd y parc bywyd gwyllt i bobl leol i gadw unrhyw fwyd newu wastraff bwyd tu fewn i’w tai, er mwyn annog y mwnci i ddychwelyd i’r parc pan fydd yn llwglyd.
Dywedodd llefarydd y parc, Keith Gilchrist: “Cafodd y macaque ei weld y bore ‘ma ac yr ydym yn ymateb.
“Trwy gydol y dydd bydd ein tîm o arbenigwyr yn patrolio’r ardal gan ddefnyddio nifer o dechnegau gwahanol mewn ymgais i’w ddenu, gan hefyd defnyddio ein contractwr drôn i helpu gyda’n hymdrechion.
“Mae Tîm Achub Mynydd y Cairngorms wedi cynnig yn garedig y defnydd o'u drôn delweddu thermol.
“Fel ddoe, rydym yn gofyn pobl leol i symud unrhyw ffynonellau amlwg o fwyd i mewn i’w tai, gan ein bod yn gobeithio bydd y mwnci yn dychwelyd i’r parc os nad yw’n gallu dod o hyd i fwyd.
“Er nad yw’r macaque yn cael ei weld yn beryglus i bobl nac anifeiliaid anwes, rydym yn cynghori i beidio agosáu ato..."
Mae’r sw yn cadw grŵp mawr o’r mwncïod, wedi iddyn nhw eu bridio yn llwyddiannus.
Bwyta cnau
Gwelodd un cwpl y macaque yn eu gardd dros y penwythnos. Roedd y macaque yn bwyta cnau ar eu ffens am tua 15 munud cyn rhedeg i ffwrdd.
Roedd Carl Nagle, 49, a’i bartner Tina Salzberg, 50, wrth ymyl eu patio pan welon nhw’r mwnci. Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd Ms Salzberg: “Cafon ni ein syfrdanu i weld mwnci eira Japaneaidd yn ein gardd mewn pentref mor bell o unrhyw le.
“Yr oedd yn hollol wyllt, roedd y ddau ohonom yn ceisio cael yr ongl gorau ar fideo.
Ychwanegodd Mr Nagle: “Mae mor swreal, dwi wedi gweld mwncïod eira yn y gwyllt ond dydych chi byth yn disgwyl i’w gweld yn eich gardd yn yr Ucheldiroedd.”
Llun: PA