Carcharu pedoffeil o Fôn am naw mlynedd am droseddau rhyw
Mae dyn o Fôn wedi ei garcharu am naw mlynedd wedi i ddynes o ogledd Lloegr ddod o hyd i negeseuon anweddus ar ffôn symudol ei merch 10 oed.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, dywedodd y Barnwr Nicola Saffman wrth Richard Kyle Parry, 24 oed, o ardal Amlwch: ”Rwy'n fodlon eich bod yn beryglus."
Roedd ganddo "gyflwr pedoffilaidd fydd ddim yn stopio os na fyddwch yn derbyn triniaeth," meddai.
Ychwanegodd y byddai'n treulio dwy ran o dair o'i ddedfryd cyn i'r Bwrdd Parôl ystyried ei ryddhau ac fe gafodd ei gyfnod ar drwydded ei ymestyn dair blynedd.
Cafodd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw ac fe gafodd gorchymyn atal niwed rhyw ei wneud, fydd heb derfyn.
Clywodd y llys fod Parry wedi cysylltu â'r ferch ar Snapchat, gan ei hannog i gymryd rhan mewn gweithredoedd "ffiaidd".
Roedd Parry wedi ffilmio camdriniaeth rywiol o ail blentyn hefyd.
Derbyniodd y bargyfreithiwr Dafydd Roberts ar ran yr amddiffyniad mai dim ond un ddedfryd oedd yn dderbyniol: “Mae’n rhaid iddi fod yn ddedfryd o garchar ar unwaith ac mae’n rhaid iddi fod yn ddedfryd hir.”
Cyfaddefodd Parry i chwe chyhuddiad yn ymwneud ag ymosodiad rhywiol, ysgogi gweithgaredd rywiol a chyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.