Newyddion S4C

Arestio gyrrwr wedi i ddyn 52 oed farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

30/01/2024
Traffic ar yr M4

Mae gyrrwr 34 oed wedi cael ei arestio wedi i ddyn arall 52 oed farw mewn gwrthdrawiad ffordd ar yr M4 nos Lun. 

Derbyniodd Heddlu Gwent adroddiadau o wrthdrawiad ffordd ar yr M4 ger Casnewydd am tua 21:00 nos Lun. 

Roedd rhan o'r M4 ar gau fore Mawrth.

Mae swyddogion yn parhau yn bresennol yn ardal y gwrthdrawiad oedd yn cynnwys tri cherbyd sef BMW X4, Vauxhall Agila a Volkswagen Polo, meddai'r heddlu.

Bu farw gyrrwr y Vauxhall, oedd yn dod o Gasnewydd, yn y fan a'r lle. 

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. 

Mae dyn 34 oed o Gaerdydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus, ac yn parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau fynd yn eu blaen.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mike Richards: "Wrth i'n swyddogion barhau i weithio yn lleoliad y gwrthdrawiad, mae holl lonydd y draffordd rhwng cyffyrdd 28 a 30 ar yr ochr ddwyreiniol ar gau ar hyn o bryd, gyda dargyfeiriadau mewn lle.

"Rydym yn gwybod fod hyn am achosi dipyn o aflonyddwch ar y ffyrdd felly rydym yn gofyn i bobl osgoi'r ardal a dilyn y dargyfeiriadau sydd mewn grym."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.