Brodyr o Sir Benfro a gollodd eu mam-gu a'u tad-cu i ddementia yn rhedeg 10km bob dydd i godi arian
Mae dau frawd o Sir Benfro wedi bod yn rhedeg 10km y dydd ym mis Ionawr i godi arian i elusen ar ôl colli eu mam-gu a'u tad-cu i ddementia.
Mae Joseph Griffiths, 22, a Ben Griffiths, 27, o Sir Benfro bellach yn byw yn Battersea yn Llundain.
Fe gollon nhw eu tad-cu, Brynmor Griffiths, sef tad eu mam, yn 2021 cyn colli eu mam-gu, sef mam eu tad, y flwyddyn ganlynol.
Dros gyfnod Nadolig 2023, penderfynodd y brodyr i osod her i'w hunain i godi ymwybyddiaeth o dementia a chodi arian at elusen Dementia UK.
Ers 1 Ionawr, mae'r brodyr wedi bod yn rhedeg 10km y dydd, gyda'r bwriad o barhau i wneud hynny nes diwedd y mis ddydd Mercher.
Dywedodd Ben: "Un bore, gallwn ni fod yn rhedeg am 06:00 yn y bore, neu am 22:00 ar adeg gwahanol, ac wedyn rydym ni yn llythrennol yn cysgu yn ein cit rhedeg cyn mynd yn ôl allan i redeg y bore canlynol fel ein bod ni'n gallu gweithio o amgylch ein patrwm gwaith."
Derbyniodd eu tad-cu ddiagnosis o ddementia yn 2014 ar ôl cael strôc. Datblygodd y symptomau cychwynnol yn ystod y pandemig, gan wneud pethau hyd yn oed yn anoddach i'r teulu, meddai Ben.
"Roedd yn araf iawn yn datblygu dementia, roedd ei symptomau cychwynnol yn cynnwys mynd yn anghofus," meddai.
"Doedd o ddim yn ein hadnabod ni, a dwi'n meddwl bod hynny wedi bod yn anodd iawn i mam ddelio gyda... doeddem ni ddim yn gwybod os mai dyma fyddai'r tro olaf i ni siarad gydag ef, ac yn fuan ar ôl hynny, hunodd yn dawel."
'Gwerthfawrogi'
Yn 2021, yr un flwyddyn y bu farw eu tad-cu yn 83 oed, cafodd eu mam-gu Poppy Griffiths ddiagnosis o ddementia hefyd.
"Dwi'n cofio un wythnos, roedd hi'n gwybod yn union pwy oeddem ni, wedyn y tro nesaf i ni ei gweld, doedd hi ddim yn ein hadnabod, fe aeth hi bron yn ôl i'w phlentyndod," meddai Ben.
Bu farw eu mam-gu yn 2022 yn 96 oed.
Ychwanegodd Ben: "Dwi'n meddwl fod hyn i gyd wedi gwneud i mi werthfawrogi amser gyda’r teulu… mae’n gwneud i mi fod eisiau mynd allan i weld y byd a gwneud pethau oherwydd dwi wedi dod i werthfawrogi pa mor fyr ydi bywyd."
Dywedodd Joseph y byddai eu mam-gu a'u tad-cu wrth eu boddau yn meddwl amdanynt yn gwneud yr her.
"Fe fydden nhw mor falch ac fe fyddan nhw eisiau i ni ddal ati," meddai.
Llun gan Collect/PA Real Life.