Newyddion S4C

Cyflwyno cymwysterau galwedigaethol newydd yng Nghymru

30/01/2024
dosbarth (Llyw Cym)

Fe fydd cymwysterau galwedigaethol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer plant 14-16 oed yng Nghymru fel rhan o ddiwygiad mawr i'r cwricwlwm.

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddant yn cyflwyno cymwysterau newydd TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) sy’n gysylltiedig â sgiliau ymarferol byd gwaith.

Fe fydd y TAAU yn eistedd ochr yn ochr gyda TGAU a fydd yn parhau i ganolbwyntio ar sgiliau academaidd.

Y nod yw eu bod y TAAU yn disodli tua 300 o gymwysterau galwedigaethol presennol gan gynnwys rhai BTEC.

Erbyn mis Medi 2027, fe fydd myfyrwyr 14-16 oed yng Nghymru yn gallu dewis o blith cymwysterau TAAU, Cymwysterau sylfaen, Cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith a Chymhwyster Prosiect Personol. 

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru: "Yr ystod gyffrous hon o gymwysterau, ynghyd â'r cymwysterau TGAU newydd sydd eisoes yn cael eu datblygu, yw’r trawsnewidiad mwyaf o ran cymwysterau ar gyfer oed 14-16 mewn cenhedlaeth yng Nghymru. 

"Bydd yn golygu y bydd ein holl ddysgwyr, beth bynnag fo'u diddordeb, eu dawn neu eu gallu, yn gallu cael cydnabyddiaeth a gwobr am yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.

"Gyda'r cymwysterau newydd hyn, byddan nhw’n gallu symud ymlaen o'r Cwricwlwm i Gymru i'r cam dysgu nesaf a chreu sylfaen ar gyfer eu llwyddiant personol eu hunain."

'Symud ymlaen'

Ychwanegodd Ben Cottam, Pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: "Ein gobaith yw y bydd y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cyfrannu rhywfaint at wella’r dewisiadau i ddysgwyr. 

"Drwy ategu’r cwricwlwm â phrofiadau bywyd go iawn a rhyngweithio â busnesau bach yn y gymuned leol, bydd y cymwysterau hyn yn helpu dysgwyr i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu a gwaith."

Fe fydd y cymwysterau yn cael eu hasesu ar Lefel 1 a Lefel 2, ac yn galluogi pobl ifanc i ddysgu am feysydd galwedigaethol trwy ddull mwy ymarferol o ddysgu ac asesu.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.