Tai anfforddiadwy yn 'niweidio iechyd a llesiant yng Nghymru'
Mae tai anfforddiadwy mewn perygl o "niweidio iechyd a llesiant yng Nghymru" yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Mae'r adroddiad newydd yn tynnu sylw at sut y mae'r argyfwng costau byw yn gwneud cartrefi'n llai fforddiadwy i rai pobl a sut mae hynny yn effeithio ar eu hiechyd.
Yn ôl ICC, mae peidio â gallu fforddio taliadau rhent neu forgais yn cael effeithiau negyddol ar iechyd meddwl unigolion, ac mae biliau ynni uchel yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi oer a llaith gan arwain at risg uwch o drawiad ar y galon, strôc, arthritis a chyflyrau anadlol.
Yn ôl Manon Roberts, Uwch-swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae angen cymryd mesurau i helpu pobl.
“Mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru i ateb galw'r presennol a'r dyfodol er mwyn helpu i wella fforddiadwyedd tai a gwella iechyd," meddai.
"Gellir cymryd mesurau eraill hefyd i helpu i leihau costau, er enghraifft mynd i'r afael â biliau ynni uchel a chostau gwneud addasiadau a gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar gyfer adeiladau.
"Gall y rhain fod o fudd i bawb; aelwydydd, landlordiaid a gwasanaethau cyhoeddus.”
'Gweithio'n galed'
Wrth ymateb i'r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n galed i helpu pobl.
"Rydym yn croesawu adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n tynnu sylw at yr effaith y mae tai o ansawdd gwael yn ei chael ar iechyd a llesiant, gan gyflwyno’r achos dros ein buddsoddiad parhaus mewn tai,m" medden nhw.
“Yn 2023-24, byddwn wedi buddsoddi mwy na £210m mewn gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai, a £330m mewn tai cymdeithasol, sef y swm uchaf erioed.
"Rydym yn gweithio’n galed i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd gennym ar gyfer y rhai sydd angen tai, yn ogystal â darparu cyngor a chefnogaeth trwy ein menter Cymorth i Aros i’r rhai sy’n cael trafferth i dalu cost taliadau morgais uwch.”
'Anfforddiadwy'
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn honni bod y tystiolaeth yn awgrymu bod rhentwyr a phobl anabl wedi cael eu taro'n galetach gan effeithiau'r argyfwng costau byw ar fforddiadwyedd tai, ac mae pobl hŷn, plant a babanod yn wynebu risg arbennig o uchel o effeithiau negyddol byw mewn cartrefi oer a llaith.
Ychwanegodd y gwasanaeth: "Daw problem bosibl arall o fethu fforddio gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi.
"Gall hyn gloi pobl mewn biliau ynni anfforddiadwy, a golygu bod aelwydydd yn defnyddio mwy o ynni ar adeg pan mae Cymru yn ceisio lleihau'r defnydd o ynni er mwyn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd."