Darganfod baban newydd-anedig yn farw mewn toiled tafarn
Mae'r heddlu'n annog mam i faban newydd-anedig gafodd ei ddarganfod yn farw mewn toiled tafarn i chwilio am gymorth meddygol.
Cafwyd hyd i’r ferch fach yn nhoiled y Three Horseshoes yn Oulton, Leeds, brynhawn Sul.
Cafodd parafeddygon eu galw tua 16.45 ond cyhoeddwyd bod y babi wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi dweud bod eu hymchwiliad yn parhau gan bwysleisio mai eu “blaenoriaeth yw sicrhau lles y fam”.
Mae'r llu yn annog y ddynes i gysylltu gyda nhw neu ddod o hyd i gymorth meddygol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd James Entwistle: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac rydym yn apelio ar frys i fam y ferch fach gysylltu â ni neu ofyn am gymorth meddygol gan ei bod hi wedi bod trwy ddioddefaint trawmatig iawn a gallai’n wir fod angen triniaeth ei hun.
“Os yw’r fam yn gyfforddus yn siarad â’r heddlu yna gall wneud hynny drwy ffonio 101 neu gall ddefnyddio system gyswllt LiveChat ar-lein.
“Os nad yw hi eisiau siarad â’r heddlu, fe all gysylltu ag Uned Asesu Mamolaeth Leeds ar 0113 3926731."
Llun: PA