Newyddion S4C

Enwi dau fachgen a fu farw ar ôl cael eu trywanu ym Mryste

29/01/2024
llofruddiaeth bristol.png

Mae enwau'r ddau fachgen a fu farw ar ôl cael eu trywanu ym Mryste dros y penwythnos wedi cael eu rhyddhau yn lleol. 

Bu farw Max Dixon, 16, a Mason Rist, 15, wedi'r ymosodiad gan nifer o bobl yn ardal Knowle West tua 23:20 nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod yr ymosodwyr wedi dianc o'r ardal mewn car. 

Mae dyn 44 oed a bachgen 15 oed bellach wedi cael eu harestio ac yn parhau yn y ddalfa. 

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth gan ddweud bod car wedi cael ei gadw fel rhan o'r ymchwiliad.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Runacres: "Rydym ni'n amau rhagor o bobl o fewn y y grŵp rydyn ni'n credu sy'n gyfrifol.

"Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o ysgytwol a thrasig lle mae dau fachgen ifanc, oedd â’u bywydau cyfan o’u blaenau, wedi marw.

“Mae ein meddyliau gyda’u teuluoedd ar adeg sydd, heb os, yn un anodd iawn. 

"Bydd swyddogion cyswllt teulu arbenigol nawr yn cael eu neilltuo i'r teuluoedd i roi cymorth iddynt a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr ymchwiliad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.