Newyddion S4C

Dyn o Abertawe wedi ei barlysu ar ôl damwain wrth nofio ar Nos Galan

29/01/2024
Dan Richards

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei barlysu ar ôl damwain yn y môr wrth nofio ar Nos Galan.

Fe gafodd Dan Richards ddamwain wedi iddo fynd i drafferthion wrth nofio ym Mae Langland. 

Yn nofiwr profiadol, cafodd Mr Richards ddamwain wrth gamu i mewn i don nerthol, gan achosi anaf difrifol i'w wddf.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Southmead ym Mryste er mwyn derbyn triniaeth achub bywyd, ac mae bellach mewn cyflwr mwy sefydlog yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn disgwyl i gael ei drosglwyddo i leoliad tymor hir.

Mae tudalen wedi cael ei sefydlu er mwyn codi arian i helpu i gefnogi Mr Richards a rhoi'r "ansawdd bywyd gorau posibl iddo; gan gynnwys ei helpu i barhau i fod y tad gorau i'w ferch dair oed, Hailey."

Plymio i don

Ychwanegodd partner Mr Richards, Anna Thomas: "Digwyddodd y ddamwain wrth blymio i don, a chan ei fod yn syrffiwr brwd mae hyn yn rhywbeth y mae wedi’i wneud gannoedd o weithiau o’r blaen. 

"Roedd Dan yn gwybod yn syth fod rhywbeth o'i le ac yn ffodus fe drodd ton ato fel ei fod yn gallu galw am help. Yna fe lwyddais, ein ffrind a fy Mam i’w dynnu o’r môr gan sylweddoli nad oedd yn gallu symud ei freichiau na’i goesau."

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Thomas: "Roeddwn i eisiau egluro i bobl y rheswm am y dudalen JustGiving a beth sydd wedi digwydd i Dan a minnau ers Nos Galan."

 "Hoffwn ddweud diolch i'r gweithwyr gwasanaethau brys cyntaf a wnaeth fynychu a gwylwyr y glannau, maen nhw'n anhygoel, y cerddwyr gerllaw a wnaeth alw am ambiwlans ac i'r rhai a wnaeth helpu i gario Dan i fyny'r traeth, i'r rhai a arhosodd gyda ni."

Ychwanegodd y dudalen fod "cymaint o bobl yn caru Dan, ac rydym ni'n gwybod ei fod mor gryf ac annibynnol, ond nid yw hon yn daith y mae modd iddo fynd arni ar ben ei hun."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.