Newyddion S4C

Cwis Bob Dydd yn dychwelyd gyda thema newydd

29/01/2024
Cwis Bob Dydd

Mae Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am dymor arall ddydd Llun, ac y tro yma fe fydd yn cael ei gynnal i gyd-fynd â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. 

Dyma'r trydydd tymor i’r cwis gael ei gynnal, wedi dau dymor llwyddiannus a welodd miloedd o bobl ar draws Cymru yn mynd benben yn erbyn ei gilydd yn ddyddiol i geisio ateb deg cwestiwn.

Y nod yw ateb y deg cwestiwn bob dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.

Thema’r Cwis y tymor yma yw’r Chwe Gwlad ond mae’r cynhyrchydd, Aled Parry, wedi annog pobl i beidio â phoeni os nad yw’n gwybod lawer am y gamp ei hun.  

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: "Mae’r tymor yma yn mynd i fod yn fyrrach na’r prif dymor, sydd i ddod dros yr haf, ac mae’r un yma yn cael ei gynnal i gyd-fynd efo’r Chwe Gwlad.

“Mae cwestiynau efo themâu’r Chwe Gwlad, ond does dim angen gwybod lot am rygbi mewn gwirionedd. 

“Byddwn ni’n profi gwybodaeth y cystadleuwyr ar wahanol elfennau o’r gwledydd sydd yn cymryd rhan.

“Ac wrth gwrs, mae’n fantais os ydych chi’n adnabod llynnoedd Cymru a gwahanol idiomau hefyd,” meddai. 

‘Llwyddiant mawr’

Roedd cyfanswm o 15,027 o chwaraewyr wedi cofrestru i chwarae’r Cwis y tymor diwethaf, gyda 847,009 o gemau yn cael eu chwarae. 

O gynnwys y tymor cyntaf hefyd, mae 1,050,000 o gemau Cwis Bob Dydd wedi cael eu chwarae hyd yma. 

Ac er ei fod yn “hapus iawn” gyda llwyddiant y gêm, mae Aled Parry yn awyddus i weld nifer y bobl sy’n cymryd rhan “cynyddu dros yr wythnosau nesaf.”

Dywedodd: “Mi oedd y tymor diwethaf yn llwyddiant mawr i ni. 

“Roedd y cwis yn rhan o ddydd miloedd o bobl ar draws Cymru ac yn lot bellach na hynny hefyd.

“Mae’r Cwis yn wir wedi dal dychymyg pobl ym mhob rhan o Gymru, a phobl o bob gallu eu hiaith.”

Wrth gymryd rhan yn ddyddiol yn y cwis, fe gewch sgôr ar sail cyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuydd wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.

Bob tro mae rhywun yn cystadlu yn y cwis, maen nhw'n derbyn tocyn am gyfle i ennill prif wobr y tymor.

Michaela Carrington enillodd prif wobr y cwis y tymor diwethaf, a hithau wedi ennill defnydd o gar melyn Cwis Bob Dydd am flwyddyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.