Newyddion S4C

Y DU yn atal cyllid i asiantaeth UN yn Gaza yn dilyn honiadau o gysylltiad â Hamas

28/01/2024
GAZA UNRWA

Mae wyth gwlad, gan gynnwys y DU, wedi eu condemnio ar ôl atal cyllid i sefydliad y Cenhedloedd Unedig (UN) dros ffoaduriaid Palesteina, yn sgil adroddiadau o gysylltiadau gyda Hamas.

Mae pennaeth undeb UNRWA (United Nations Relief and Works Agency), Philippe Lazzarini, wedi annog gwledydd sydd wedi rhoi’r gorau i ddarparu cyllid i'r sefydliad i ailystyried eu penderfyniad “syfrdanol.”

Daw wedi i wyth gwlad, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, gymryd y cam ar ôl iddyn nhw gael gwybod gan Israel yr oedd rhai aelodau’r staff yr undeb UNRWA wedi chwarae rôl mewn ymosodiadau Hamas ar Israel ar 7 Tachwedd. 

Mae dros 2 miliwn o bobl ar hyd ffin Gaza yn ddibynnol ar nwyddau a ddarparir gan yr UNRWA, a hynny trwy gyllid y gwledydd yma mae ei bennaeth, Philippe Lazzarini wedi rhybuddio. 

Dywedodd yr undeb ei fod yn ymchwilio i’r honiadau yn ei erbyn a’i fod wedi ymddiswyddo aelodau’r staff honedig oedd ynghlwm a’r ymosodiad y llynedd. 

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Lazzarini: “Mae’n arswydus i weld fod ein cyllid wedi’i atal mewn ymateb i’r honiadau yn erbyn grŵp bychan o staff.

“Yn enwedig wrth ystyried bod yr UNRWA wedi gweithredu’n uniongyrchol i ddod a chontractau'r unigolion yma i ben a chynnal ymchwiliad annibynnol tryloyw.

“Byddai’n hynod anghyfrifol i gosbi asiantaeth a’r gymuned gyfan rydym yn ei wasanaethu oherwydd honiadau o drosedd yn erbyn rhai unigolion yn unig - yn enwedig ar adeg o ryfel, dadleoli ac argyfwng gwleidyddol yn y rhanbarth.

“Mae’r UNRWA yn rhannu rhestr y bobl rydym yn ei gyflogi gyda gwledydd eraill bob blwyddyn, gan gynnwys Israel. 

“Ni dderbyniodd yr asiantaeth unrhyw bryderon am aelodau penodol o staff," meddai.

'Honiadau arswydus'

Y gwledydd sydd wedi rhoi’r gorau i ddarparu cyllid i’r undeb yw Awstralia, Canada, Y Ffindir, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, y DU a'r Unol Daleithiau.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Dramor y DU ei fod wedi atal unrhyw gyllid i’r UNRWA am gyfnod dros dro wrth iddynt ymchwilio i’r honiadau “arswydus” yn erbyn yr undeb.

Mae Israel wedi cyhuddo sawl cangen o’r UN, gan gynnwys yr UNRWA, o “duedd” a gwrth-semitiaeth.

Fe gafodd yr UNRWA ei sefydlu yn 1949, ac mae’n undeb fwyaf yr UN sy’n gweithredu yng Gaza.

Bu’n darparu cymorth meddygol, addysg a chymorth dyngarol i Balesteiniaid yn Gaza, y Lan Orllewinol, Gwlad yr Iorddonen, Libanus a Syria. Mae'n cyflogi tua 13,000 o bobl y tu mewn i Gaza.

Mae’r undeb wedi darparu ei gymorth i gannoedd ar filoedd o bobl ledled Gaza wedi i Israel lansio ei gwrth-ymosodiad yn erbyn Hamas, yn dilyn ymosodiad ym mis Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.