Newyddion S4C

Cadeirydd Swyddfa'r Post yn camu o'r neilltu wrth i 'densiynau' barhau

27/01/2024
Henry Staunton

Mae cadeirydd Swyddfa’r Post wedi camu o’r neilltu wrth i "densiynau" ynghlwm â’r sgandal Horizon barhau.

Bydd Henry Staunton yn gadael ei rôl fel cadeirydd yn dilyn trafodaeth gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Kemi Badenoch, ddydd Sadwrn.

Dywedodd Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU y byddai’n penodi rhywun yn ei le “yn fuan.”

Mae Mr Staunton wedi bod yn y rôl ers mis Rhagfyr 2022, wedi iddo dreulio naw mlynedd fel cadeirydd WH Smith.

Daw ei ymadawiad fel rhan o “gytundeb ar y cyd” rhyngddo ef a Ms Badenoch, meddai'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach.

Ond ychwanegodd Ms Badenoch hefyd yr oedd hi'n teimlo fel oedd Swyddfa'r Post bellach "angen arweinyddiaeth o'r newydd."

Ac mae Ms Badenoch bellach wedi dweud yr oedd "angen arweinyddiaeth newydd" ar Swyddfa'r Post. 

"Mae Swyddfa'r Post dan sylw ar hyn o bryd... ac o ganlyniad, fy nheimlad i oedd bod angen arweinyddiaeth newydd ar y sefydliad."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Ar alwad ffôn yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach a Henry Staunton, cadeirydd Swyddfa’r Post, wedi cytuno i ddilyn llwybr gwahanol.

“Fe fydd interim yn cael ei benodi’n fuan ac mi fydd proses recriwtio ar gyfer cadeirydd newydd yn cychwyn maes o law, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus."

Nid oedd penderfyniad Mr Staunton i gamu o’r neilltu wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â sgandal y Swyddfa’r Post, ond roedd anghytuno rhyngddo ef a’r Llywodraeth ynglŷn â phwy oedd yr “ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd,” yn ôl rhai adroddiadau.

Rhwng 1999 a 2015, cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn wedi i raglen gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon nodi bod arian wedi diflannu o'u canghennau.

Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes system gyfreithiol y DU. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.