Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff menyw aeth i’r dŵr ym Mhorthcawl

27/01/2024
Chwilio ym Mhorthcawl

Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gorff menyw aeth i’r dŵr ym Mhorthcawl nos Fawrth.

Cafodd y fenyw ei chanfod gan y gwasanaethau brys wedi iddyn nhw dderbyn galwad ffôn gan aelod o’r cyhoedd.

Daw wedi ymgyrch chwilio ar hyd arfordir y dref lan-môr, a chychwynnodd am oddeutu 17.55 ddydd Mawrth, wedi adroddiadau bod person wedi mynd i'r dŵr.

Nid yw enw'r fenyw wedi’i datgan yn swyddogol hyd yma, ond mae ei theulu wedi cael gwybod am ei marwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "meddwl am deulu’r fenyw yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Mae’r crwner hefyd wedi cael gwybod. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.