Newyddion S4C

Pryderon am ddyfodol Hwb Iechyd Cybi ar Ynys Môn

26/01/2024

Pryderon am ddyfodol Hwb Iechyd Cybi ar Ynys Môn

Mae Caergybi yn dref borthladd sydd â phoblogaeth ychydig llai na 12,000 o bobl.

Mae 10,000 o'r rheiny'n gleifion yn Hwb Iechyd Cybi.

Ond gyda rhai o feddygon yr Hwb yn paratoi i adael dros y misoedd nesaf mae 'na bryderon ymysg y staff yno.

Cafodd Hwb Iechyd Cybi ei sefydlu nôl yn 2019 a hynny yn dilyn prinder doctoriaid yn y dref.

Fe gymrodd y Bwrdd Iechyd ofal am ddwy feddygfa leol sef Longford House a Cambria gan uno'r ddwy i greu canolfan iechyd newydd Hwb Iechyd Cybi.

Am amrywiol resymau, pobl yn gadael, cyfnodau mamolaeth 'dan ni ar fin mynd i gyfnod lle 'dan ni lawr i ddim meddyg teulu unwaith eto, sy'n peri pryder mawr i fi.

Mae arafwch y Bwrdd Iechyd i ymateb i'r sefyllfa yn peri pryder mawr a'r diffyg cyfathrebu efo pobl Caergybi.

Dw i angen gweld gweithredu ar frys i sicrhau bod gofal sylfaenol ddim yn chwalu unwaith eto ar gyfer cleifion Caergybi.

Mae BBC Cymru wedi gweld copi o lythyr gan feddyg yn yr hwb sy'n nodi bod nhw'n poeni'n arw am effaith uniongyrchol sefyllfa'r Hwb ar iechyd bron i 10,000 o drigolion Ynys Môn.

Mae'n nodi eu bod yn poeni hefyd am bwysau gwaith a iechyd eu cyd-feddygon, ac am iechyd eu hunain.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud fod sefyllfa bresennol yr Hwb yn dangos diffyg cynllunio, penderfynu a chyfathrebu amlwg ar ran y Bwrdd Iechyd.

Beth felly ydy'r farn ar strydoedd Caergybi? Mae'n anodd cael fewn i weld doctor rwan.

Dw i'm yn gwybod pa bryd welais i ddoctor ddwytha. Does gen i'm byd i gwyno amdano fo.

Ar ôl deud hynny, 'chydig iawn fydda i'n meddwl am y pethau 'ma.

Mae 'na o hyd rhywun sy'n waethach allan, does? Mae'n anodd weithiau i gael appointment.

Mae'r service ar y website yn iawn. Mae'r staff yna'n poeni rwan bod y staff yn mynd i fynd lawr.

'Dach chi'n poeni am hynny? Yndan, 'dan ni gyd yn poeni am hynna. Lle bach ydy fan'ma i gael doctors?

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn hysbysebu am feddygon teulu.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r practis a'r gymuned y maen nhw'n wasanaethu.

Yn ol Llywodraeth Cymru, cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd ydy sicrhau mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol.

Y pryderon yng Nghaergybi yn amlwg felly y gallai'r sefyllfa bresennol waethygu yn fuan iawn.

Gyda'r Bwrdd Iechyd yn dweud mai'r her iddyn nhw rwan ydy gwneud yn siŵr nad yw'r dref yn brin o feddygon unwaith eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.