Newyddion S4C

'Pob cyfle gan Rees-Zammit i gyrraedd yr NFL' meddai'r Cymro â'r un freuddwyd

28/01/2024

'Pob cyfle gan Rees-Zammit i gyrraedd yr NFL' meddai'r Cymro â'r un freuddwyd

Mae cyn chwaraewr rygbi o Gymru wedi symud i America i geisio gwireddu ei freuddwyd o gyrraedd uchelfannau’r byd pêl-droed Americanaidd - yr NFL.

Na, nid Louis Rees-Zammit yw’r dyn dan sylw, ond Evan Williams, o Ben-y-bont.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r gŵr 23 oed wedi creu argraff wrth chwarae Pêl-droed Americanaidd dros un o golegau mwyaf llwyddiannus Midwest yr Unol Daleithiau, Coleg Missouri Western State.

Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, dywedodd Evan ei fod yn credu fod gan cyn-asgellwr Cymru Louis Rees-Zammit y ddawn i gyflawni ei uchelgais, sef chwarae yn yr NFL - y gynghrair fwyaf llewyrchus yn y byd chwaraeon.

Image
Zammit
Fe gyhoeddodd Louis Rees-Zammit ei fod yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi er mwyn ceisio chwarae yn yr NFL (Llun: Instagram/lrzammit)

“Roedd e’n wych i weld bod Louis am geisio chwarae pêl-droed Americanaidd, oherwydd mae ganddo freuddwyd mawr ac mae’n mynd i gymryd camau tuag ato fe, a dwi’n meddwl bod hynny’n wych," meddai.

“Mae e wedi dangos pa mor arbennig yw e yn y byd rygbi ac mae e wedi cyflawni’r achievements mwyaf ti’n gallu – mae fe’n British and Irish Lion yn barod yn 22 mlwydd oed, felly beth arall sydd iddo fe i gyflawni?

“Dwi’n credu os mae e’n wir yn freuddwyd iddo fe i chwarae yn yr NFL, dwi’n mynd i gefnogi fe'r holl ffordd yna.

"Mae e’n rhywbeth personol iddo fe i anelu ato a dwi’n credu os mae e’n cario ymlaen i weithio fel mae e wedi yn y byd rygbi, does dim rheswm pam ni fydd e’n cyrraedd yr NFL.”

Uchelgais

Yn wahanol i Rees-Zammit, rygbi oedd y rheswm i Evan i symud i America yn y lle cyntaf.

Ar ôl cael gwybod na fyddai yn parhau yn rhan o academi rygbi Caerdydd yn 16 oed, fe lwyddodd i ennill ysgoloriaeth i chwarae dros Brifysgol Lindenwood yn Missouri.

Image
Evan Williams
Mae Evan Williams wedi chwarae fel 'punter' dros y Missouri Western Griffons (Llun: Y Gic Fawr - Hansh/Boom)

Yno, fe wnaeth greu argraff gyda’r bêl hirgron, gan ennill gwobrau ar lefel cenedlaethol, gyda'i sgiliau cicio hefyd yn dal llygaid hyfforddwyr pêl-droed Americaniad.

Ar ôl ymuno â choleg Missouri Western State, treuliodd dau dymor yn chwarae yn broffesiynol i dîm y Griffons mewn stadiymau enfawr, mewn cynghrair yn cynnwys colegau o bump o daleithiau y Mdiwest.

Yn ystod ei dymor diwethaf gyda’r tîm - sydd yn destun rhaglen newydd ar Hansh o’r enw Y Gic Fawr - fe gafodd ei gydnabod fel un o chwaraewyr gorau yn y gynghrair gyfan, sydd yn cynnwys timoedd o bum talaith.

'Balch iawn'

Nawr, wedi iddo raddio a dod a’i yrfa coleg i ben, ceisio ennill ei le yng ngharfan un o dimoedd yr NFL yw’r uchelgais sydd gan Evan.

“Yn tyfu lan yng Nghymru, mae pawb eisiau chwarae rygbi dros Gymru. Wrth gwrs, dyna oedd y freuddwyd i fi pan oeddwn i’n ifanc, ond y breuddwyd i fi nawr yw chwarae yn yr NFL,” meddai.

Pob blwyddyn, mae dros filiwn o bobl ifanc yn yr UDA yn cystadlu ym mhêl-droed Americanaidd mewn ysgolion uwchradd. Dim ond 6% sy’n llwyddo i gyrraedd lefel colegol, a llai na 1% o’r rheiny sy’n cyrraedd yr NFL.

Yn dilyn ei berfformiadau rhagorol wrth chwarae’n broffesiynol ar y lefel rhyng-golegol, mae Evan wedi ei wahodd i ddigwyddiadau ‘combine’ ar draws y wlad – ble mae hyfforddwyr y gynghrair yn profi sgiliau chwaraewyr talentog sydd heb glwb. 

Image
Gats ag Evan
Evan gyda prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn lansiad y Chwe Gwlad 2024 (Llun: Instagram/rugbynudge)

Dim ond y gorau sydd yn sicrhau eu lle yng ngharfan un o’r 32 o dimoedd y gynghrair.

Ond mae Evan, sydd yn chwarae yn safle arbenigol y punter – y person sydd yn gyfrifol am gicio’r bêl mor bell â phosib mewn gêm - yn dweud ei fod yn hyfforddi’n galed er mwyn ceisio gwireddu ei uchelgais.

“Cefais fy nghydnabod fel un o’r punters gorau'r gynghrair y coleg y tymor diwethaf. Felly o fod yn rhywun heb brofiad o gwbl yn fy nhymor gyntaf i fod yn un o’r gorau yn y gynghrair ar ddiwedd yr ail dymor, mae e’n rhywbeth fi’n falch iawn ohono.

“Nawr fi’n gweithio’n llawn amser ac unwaith fi’n gorffen, fi’n mynd yn syth i hyfforddi yn y gym a gweithio ar byntio.

“Mae’n rhaid i mi fod yn realistic. Mae 'na 32 lle yn yr NFL am Punter a dw i’n cystadlu gyda miloedd o fois am hynny. Mae’n rhaid i mi weithio’n galed a gwneud yn siŵr fy mod i yn lot gwell na phawb arall yn y combines, achos dyna yw’r cyfle.

"Mae’n rhaid i mi fod y fersiwn gorau o fy hun a gobeithio y gwnaiff rywun gweld y potensial sydd gen i.”

'Mindset'

Roedd cyhoeddiad Rees-Zammit yn gynharach fis yma yn sioc i lawer ac fe gafodd ymateb gymysg gan gefnogwyr rygbi Cymru, oedd ddim am weld un o sêr Cymru yn gadael y tîm.

Image
Evan Williams

Mae Evan yn uniaethu gyda’i gyd-wladwr, gan ddweud fod aelodau o’i deulu a’i gymuned adref yn dal i gwestiynu ei benderfyniad i newid camp.

“Pan fi’n dweud wrth fy nheulu neu ffrindiau gartref fy mod i eisiau chwarae yn yr NFL, maen nhw’n ymateb yr un ffordd a pan ddywedais fy mod am chwarae rygbi yn America, neu bêl-droed coleg; ‘dim siawns, get real'," meddai.

“Dwi’n siŵr bod 'na llawer o naysayers yn ei fywyd e nawr, fel fi wedi profi, ond mae e just yn brawf o’ch mindset rili.

"Os mae e rili yn credu fod e’n gallu gwneud e, does dim ots be mae pobl eraill yn dweud.”

Bydd Evan yn ymddangos yn y rhaglen Y Gic Fawr, fydd yn cael ei ddangos ar S4C ar Nos Fawrth 6 Chwefror, ac ar dudalen YouTube Hansh ar Nos Lun 5 Chwefror.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.