Cae newydd i ganolfan hamdden Caernarfon yn rhan o fuddsoddiad £4m mewn chwaraeon yng Nghymru
Fe fydd y ganolfan hamdden yng Nghaernarfon yn derbyn cae newydd fel rhan o fuddsoddiad £4m ar gyfer prosiectau chwaraeon llawr gwlad yng Nghymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai 64 o brosiectau ar hyd a lled Cymru yn derbyn cyfran o £4m er mwyn derbyn cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad o ansawdd uchel.
Mae'r bartneriaeth ar y cyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Cymru Football Foundation.
Ymysg y prosiectau, mae Cyngor Gwynedd wedi cael £300,000 er mwyn datblygu cae glaswellt artiffisial newydd yng Nghanolfan Hamdden Arfon.
Mae Clwb Pêl-droed Arberth yn Sir Benfro wedi derbyn bron i £220,000 ar gyfer cae glaswellt newydd tra derbyniodd Clwb Chwaraeon a Chymuned Ponthir £345,000 ar gyfer gwella ystafell newid.
Fe fydd y priosectau yn elwa o £4 miliwn gan Lywodraeth y DU yn 2023/24, a £300,000 o gyllideb 2024/25 yn cael ei fuddsoddi hefyd.
'Ansawdd uchel'
Dywedodd Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth y DU, Stuart Andrew: "Rydym yn gwybod mai un o’r prif rwystrau o ran cadw’n heini yw mynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel, a dyna pam rydym yn darparu 64 o brosiectau newydd ledled Cymru.
"Mae Llywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cymru Football Foundation eisoes wedi cyflawni 60 o brosiectau gyda chefnogaeth dros £4 miliwn i roi’r cyfleusterau o ansawdd uchel sydd eu hangen ar gymunedau lleol."
Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru Fay Jones: "Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan helpu clybiau a grwpiau i gael mynediad at y manteision iechyd a chymdeithasol sy’n perthyn i chwaraeon.
"O ganlyniad i’r cyllid hwn, bydd gan bobl ar hyd a lled Cymru rywle gwell i wneud ymarfer corff a mwynhau chwaraeon. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cymru Football Foundation wedi dod at ei gilydd i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd o fudd i gymunedau am flynyddoedd lawer i ddod."