Newyddion S4C

Brenin Charles yn 'gwneud yn dda' ar ôl derbyn llawdriniaeth ar ei brostad

26/01/2024
Y Brenin Charles III

Mae’r Brenin Charles yn “gwneud yn dda” wedi iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei brostad.

Fe gafodd y Brenin, sy'n 75 oed, ei weld yn mynd i ysbyty preifat yn Llundain fore Gwener gyda’r Frenhines Camilla wrth ei ochr.

Fe adawodd Camilla yr ysbyty am oddeutu 15.10 prynhawn Gwener ac roedd yn ymddangos ei bod hi mewn hwyliau da wrth iddi wenu at ohebwyr cyn camu i’w char.

Wrth siarad am lawdriniaeth ei gwr, dywedodd: “Mae’n gwneud yn dda iawn, diolch.”

Mae Tywysoges Cymru, Catherine Middleton hefyd yn yr un ysbyty â’r Brenin wedi iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen yn gynharach yn y mis.

'Balch'

Mae’r Dywysoges eisoes wedi bod yn yr ysbyty ers 11 diwrnod ac fe aeth y Brenin Charles i ymweld â’i ferch yng nghyfraith ddydd Gwener hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham: “Mae’r Brenin wedi mynd i ysbyty yn Llundain bore ‘ma er mwyn derbyn triniaeth oedd eisoes wedi’i drefnu o flaen llaw.

“Mae Ei Fawrhydi eisiau diolch i bawb sydd wedi dymuno’n dda iddo yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae’n falch iawn o glywed bod ei ddiagnosis yn cael effaith gadarnhaol wrth godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag iechyd y cyhoedd.”

Nid yw’n glir am faint fydd y Brenin yn yr ysbyty, na chwaith beth yn union yw natur y driniaeth.

Fe gafodd y Brenin Charles ddiagnosis yn gynharach yn y mis tra oedd yn aros yn ei gartref, Birkhall yn yr Alban.

Cafodd wybod bod ei brostad wedi chwyddo, a hynny ar ôl iddo brofi symptomau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.