'Cam yn ôl i ddynoliaeth': Dienyddio'r carcharor cyntaf yn yr UDA gyda nwy nitrogen
"Heno mae Alabama wedi achosi dynoliaeth i gymryd cam yn ôl. Rwy'n gadael gyda chariad, heddwch a goleuni."
Dyma eiriau olaf y dyn cyntaf i gael ei ddienyddio gan ddefnyddio nwy nitrogen yn yr UDA.
Bu farw Kenneth Eugene Smith am 20:25 nos Iau (amser lleol), ac yn ôl llygaid dystion fe gymerodd 22 munud iddo farw wedi dechrau'r broses ddienyddio.
Collodd Smith, 58, ddwy apêl derfynol i’r Goruchaf Lys ac un i lys apeliadau ffederal, gan ddadlau bod y dienyddiad yn gosb greulon ac anarferol.
Yn 2022, ceisiodd a methodd Alabama â dienyddio Smith trwy chwistrelliad marwol.
Roedd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi rhwystro ymdrechion cyfreithwyr Mr Smith i’w achub, wedi iddynt ddisgrifio’r gosb fel un greulon.
Roedd Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol wedi galw am atal dienyddiad Mr Smith, gan ddweud bod y dull yn gyfystyr ag artaith neu driniaeth greulon neu ddiraddiol.
Roedd ei gyfreithwyr hefyd wedi dadlau bod y dull yn rhy newydd ac “heb ei brofi,” gyda’r peryg o achosi iddo chwydu a thagu.
Ond dywedodd talaith Alabama cyn y dienyddio nos Iau fod disgwyl iddo golli ymwybyddiaeth o fewn eiliadau, a marw o fewn munudau.
Dedfryd
Cafodd Kenneth Eugene Smith ei ddedfrydu yn 1989 wedi iddo lofruddio Elizabeth Sennet, oedd yn wraig i bregethwr.
Cafodd Ms Sennet ei llofruddio gan Mr Smith a dyn arall, John Forrest Parker, ar ran gŵr y fenyw oedd yn 45 oed ar y pryd. Cafodd Mr Parker ei ddienyddio yn 2010.
Bu farw Ms Sennet ar 18 Mawrth 1988 ar ôl i’r dynion ymosod arni a’i thrywanu sawl gwaith, gan greu difrod yn y tŷ fel ei bod yn ymddangos fel bod byrgleriaeth wedi digwydd.
Y gred yw fod ei gŵr wedi cyflogi’r dynion i’w llofruddio er mwyn iddo allu casglu arian yswiriant ond fe laddodd ei hun wrth i ymchwiliadau’r heddlu ddatblygu.
Dywedodd Mr Smith ei fod yn bresennol pan gafodd Ms Sennet ei llofruddio, ond nad oedd wedi ymosod arni.
Llun: Heddlu lleol