Newyddion S4C

Gobeithion am brawf gwaed ar gyfer diagnosis tiwmor yr ymennydd

26/01/2024
Nelofer Syed

Gallai prawf gwaed newydd ddod o hyd i rai mathau o diwmor yr ymennydd, gan leihau'r angen am lawdriniaeth, yn ôl gwyddonwyr yn Llundain.

Mae arbenigwyr wrthi'n cynnal rhagor o brofion ar hyn o bryd, ond mae nhw'n gobeithio y gallai fod yn ddatblygiad arwyddocaol wrth drin rhai mathau o diwmor.

Gallai arwain at ddiagnosis cynharach, cyflymu triniaeth ac o bosibl gynyddu cyfraddau goroesi ar gyfer cleifion ag un o’r mathau mwyaf marwol o ganser yr ymennydd, medde nhw.

Dywed arbenigwyr tiwmorau eu bod yn croesawu’r newyddion, a bod y prawf yn rhad ac yn un hawdd i gyflwyno i glinigau.

Byddai’r biopsi hylif hefyd yn arbennig o fuddiol i gleifion â thiwmorau “anhygyrch” ar yr ymennydd, a allai elwa o ddechrau triniaeth cyn gynted â phosibl, yn ôl arbenigwyr.

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd wedi cynnal yr astudiaethau cyntaf i asesu a all y prawf wneud diagnosis cywir o diwmorau gan gynnwys glioblastoma (GBM), sef y mwyaf cyffredin.

Mae gwyddonwyr yn gobeithio cynnal astudiaethau pellach yn y DU i ddilysu'r canlyniadau, ac os yn llwyddiannus, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai cleifion elwa o'r prawf newydd mewn cyn lleied â dwy flynedd.

Dywedodd Dr Nelofer Syed (uchod), sy’n arwain Canolfan Ragoriaeth Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd yng Ngholeg Imperial yn Llundain: “Mae dull anfewnwthiol, rhad ar gyfer canfod tiwmorau ar yr ymennydd yn gynnar, yn hanfodol ar gyfer gwelliannau mewn gofal cleifion.

“Gallai’r ateb hwn helpu pobl lle nad yw biopsi ymennydd neu ofal llawfeddygol o’r tiwmor yn bosibl oherwydd lleoliad y tiwmor neu gyfyngiadau eraill."

Dywedodd Kevin O’Neill, niwrolawfeddyg ymgynghorol yng Ngholeg Gofal Iechyd Imperial: “Nid yw’r prawf yn dangos clefyd yn unig, mae’n brawf biopsi hylif gwirioneddol ddiagnostig.

“Gallai hyn helpu i gyflymu diagnosis, gan alluogi llawfeddygon i gymhwyso triniaethau wedi’u teilwra yn seiliedig ar y biopsi hwnnw i gynyddu siawns cleifion o oroesi.”

'Pwysau'

Dywedodd Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd fod y canfyddiadau’n “sylweddol” gan fod llai nag 1% o gleifion â GBM yn byw am fwy na 10 mlynedd ac, i lawer, mae’r prognosis cyn lleied â 12 mis.

Dywedodd Dan Knowles, prif weithredwr yr elusen:“Mae angen dulliau newydd ar frys, yn enwedig wrth drin GBM, sy’n angheuol mewn rhan fwyaf o achosion.

“Dyma pam rydyn ni’n ymgyrchu i’r Llywodraeth ac elusennau i fuddsoddi mwy, a byddwn ni’n parhau â’r pwysau nes bod cleifion a’u teuluoedd yn cael yr help sydd ei angen arnynt mor ddirfawr.”

Image
Steve Ackroyd
Steve Ackroyd a'i wraig a'i ferch

Cafodd Steve Ackroyd, golygydd teledu o Palmers Green, Gogledd Llundain, ei gamddiagnosis i ddechrau, cyn derbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd, glioblastoma, dri mis yn ddiweddarach, ym mis Awst 2022.

Cafodd y dyn 47 oed fiopsi wedi'i ddilyn gan radiotherapi a chemotherapi ac mae'n cael triniaeth imiwnotherapi yn yr Almaen ar hyn o bryd.

Dywedodd ei wraig Francesca Ackroyd, a sefydlodd dudalen cyllido torfol i ariannu ei driniaeth dramor, “Bu’n rhaid i ni aros 7 wythnos am y canlyniadau dim ond i ganfod fod y sampl o feinwe a gymerwyd yn un gwael.”

Ychwanegodd, “Yn anffodus, mae’r holl oedi wedi costio amser gwerthfawr inni pan allai fod wedi bod yn derbyn triniaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.