Newyddion S4C

Trywanu Nottingham: Gyrru dyn i ysbyty diogel am oes

25/01/2024
Llofruddiaethau Nottingham

Mae dyn wnaeth drywanu tri o bobl i farwolaeth yn Nottingham wedi ei yrru i ysbyty diogel am oes.

Plediodd Valdo Calocane yn euog i ddynladdiad pan nad oedd yn ei iawn bwyll.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Turner y byddai  Calocane, gafodd ei fagu yn sir Benfro, yn debygol o dreulio gweddill ei oes mewn ysbyty diogel wedi iddo drywanu tri o bobl yn “fwriadol” ac yn “ddidrugaredd.” Mae Calocane yn dioddef o sgitsoffrenia.

Bu farw Grace Kumar a Barnaby Webber, y ddau yn 19 oed, yn ystod ymosodiad ar Ffordd lkeston yn Nottingham ar 13 Mehefin y llynedd.

Cafodd corff Ian Coates, 65, ei ddarganfod ar Ffordd Magdala yn y ddinas yn ddiweddarach.

Cafodd un person arall anafiadu difrifol, ac fe ddioddefodd dau arall fân anafiadau yn y digwyddiad ar Stryd Milton.

Yn Llys y Goron Nottingham ddydd Iau, dywedodd Mr Ustus Turner: “Wnaethoch chi gyflawni cyfres o erchyllterau yn y ddinas hon a ddaeth â bywydau tri o bobl i ben.

“Mae eich troseddau erchyll chi wedi syfrdanu’r genedl i gyd a difetha bywydau'r  bobl wnaeth oroesi, yn ogystal â'r teuluoedd i gyd.

Doedd dim amheuaeth taw Mr Calocane, 32 oed, oedd yn gyfrifol am y troseddau, ychwanegodd Mr Ustus Turner.

Ond dywedodd taw prif her yr achos oedd penderfynu “a oeddech yn dioddef o symptomau anhwylder meddwl difrifol ar yr adeg a gafodd y troseddau yma ei gyflawni.”

Ychwanegodd nad oedd tystiolaeth o broblemau iechyd difrifol yn dileu’r “arswyd” a “thrychineb” y mae wedi achosi, ond bod ei gyflwr wedi “cyfrannu’n sylweddol” at yr ymosodiadau.

Mae Mr Calocane wedi ei gadw yn Ysbyty Ashworth ers mis Tachwedd, ond dywedodd Mr Ustus Turner ei fod yn parhau i fod yn “beryglus.”

Roedd Calocane, oedd eisoes wedi ateb i'r enw Adam Mendes yn y llys, wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad cynharach i ddynladdiad Barnaby Webber a Grace Kumar.

Fe blediodd yn euog hefyd i geisio llofruddio tri o bobl gafodd eu taro gan fan yr oedd wedi ei dwyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.