Newyddion S4C

Sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig Arad Goch, Jeremy Turner, yn ymddeol

25/01/2024
Jeremy Turner

Mae sylfaenydd Cwmni Theatr Arad Goch, Jeremy Turner, wedi penderfynu ymddeol, meddai.

Mae wedi bod yn gyfarwyddwr ar a chyfarwyddwr artistig ar y cwmni ers ei sefydlu yn 1989.

Cwmni Theatr Arad Goch yw un o brif ddarparwyr theatr i bobl ifanc yng Nghymru, gan gyrraedd cyrraedd tua 24,000 o bobl ifanc bob blwyddyn. 

Mae’r gwaith wedi cychwyn i edrych am olynydd iddo, meddai’r cwmni.

Dywedodd Mr Turner bod y cwmni wedi datblygu a thyfu y tu hwnt i’r hyn ddychmygwyd pan gafodd ei lansio.

“Ym mlynyddoedd cynnar y cwmni roedd gyda ni un ffôn, dau gyfrifiadur Amstrad a thair desg, a bydden ni’n cynnal ymarferion yn oerni hen Ganolfan y Sgubor yn Aberystwyth,” meddai.

“Erbyn hyn mae gan y cwmni ei ganolfan, ei theatr a’i adnoddau gwych ei hun yn Aberystwyth a brynwyd yn 1992 a’i addasu gyda nawdd sylweddol o dros £3.6 miliwn yn 2008 ac eto yn 2018.”

Sefydlodd Jeremy Turner y cwmni ynghyd â Mari Rhian Owen,  Mair Tomos Ifans, Siôr Llyfni, Ellen ap Gwynn a Catrin Hughes yn 1989 pan unwyd Theatr Crwban,  y cwmni theatr-mewn-addysg Cymraeg cyntaf, a’r cwmni arbrofol, Cwmni Cyfri Tri. 

‘Arthurol’

Defnyddir y ganolfan yn Aberystwyth gan Arad Goch ei hun, gan artistiaid a sefydliadau eraill, gan aelodau’r gymuned leol, yn enwedig plant a phobl ifanc, ac hyd yn oed ar gyfer priodasau.

Mae’r cwmni yn parhau i ddarparu theatr mewn ysgolion yn ogystal â cyflwyno dramâu i blant neu i bobl ifanc mewn theatrau, gofodau cymunedol a chanolfannau ieuenctid ledled Cymru a thu hwnt. 

Mae Arad Goch hefyd yn mynd a’u gwaith i lwyfannau rhyngwladol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi perfformio yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc, Catalwnia a Gwlad Pwyl.

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch, mae cyfraniad Jeremy yn “anfesuradwy”.

“Dros y blynyddoedd mae Jeremy wedi cyfrannu’n aruthrol, nid yn unig i faes theatr mewn addysg a theatr i blant a phobl ifanc, ond hefyd yn ehangach i wead diwylliant celfyddydol Cymru,” meddai.

“Un o brif gryfderau Jeremy dros y blynyddoedd yw’r gallu i esblygu, i ailddyfeisio, i gydweithio ac i fod mor barod i weithredu syniadau newydd – ac mae hon yn ffactor gref yn hir hoedledd y cwmni.

“Wrth ddiolch o galon iddo mae yma gyfle unigryw a chyffrous i gyfarwyddwr artistig newydd gydio yn yr awennau a chael cyfle i adeiladu ar y llwyfan cadarn sydd wedi ei osod, ac edrychwn ymlaen at y bennod arloesol nesaf i Arad Goch.”

‘Hunaniaeth’

Dywedodd Jeremy Turner bod y profiadau mae wedi’u cael drwy arwain Cwmni Theatr Arad Goch “yn rhy niferus i’w rhestru”.

“Rwy’n falch iawn, iawn o’r gwaith rydyn ni wedi’i gyflawni ar draws Cymru, a’r ffordd mae cwmni fel Arad Goch wedi gallu bod yn gennad i’r genedl mewn cynifer o wledydd,” meddai.

“Mae rhoi theatr o Gymru ar fap ryngwladol a gwahodd cwmnïau theatr rhyngwladol i Gymru, i gydweithio â ni yng ngŵyl Agor Drysau er enghraifft yn elfen bwysig o’n gwaith.

“Nawr mae’n amser i mi wneud pethau eraill ac i rywun arall gael y fraint o arwain y cwmni yn greadigol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.