Newyddion S4C

Fideo yn dangos mam seren bêl-droed Lloegr yn gwrthdaro â'r heddlu yng ngogledd Cymru

25/01/2024
Claire Rowlands

Mae cynnwys fideo newydd wedi dangos y foment y cafodd mam un o ser pêl-droed Lloegr ei harestio yn nhref Towyn ger Abergele.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno bod mam Phil Foden, Claire Rowlands, 44 oed, wedi bod allan am noson gyda’i ffrindiau pan gafodd ei harestio ar 9 Medi y llynedd.

Cafodd Ms Rowlands, sy’n fam i’r chwaraewr pêl-droed Manchester City adnabyddus, ei harestio wedi iddi gael ei thaflu o glwb nos lleol, Bentley’s.

Cafodd ei chyhuddo o ymosod ar ddyn yno, Paul Shortman gan fownsars y clwb nos ar ol iddi fwrw ei het oddi ar ei ben.

Yna roedd Ms Rowlands wedi gwrthdaro yn eiriol gyda swyddogion yr heddlu y tu allan i’r clwb nos, ac mae cynnwys fideo wedi’i ryddhau gan CPS yn dangos y foment honno. 

Wrth siarad yn y llys am yr ymosodiad honedig, dywedodd Ms Rowlands: “O’n i jyst ‘di meddwi.” 

“Roeddwn i’n cael ychydig bach o hwyl. Wnes i wneud yr un peth i lanc arall yn gynharach. ‘Odd e’n fach o sbort, mewn gwirionedd.”

Image
Bentley's
Clwb nos Bentley's

'Dieuog'

Cyfaddefodd Ms Rowlands i ymddygiad afreolus wedi iddi feddwi ac fe gafodd dirwy o £100, yn ogystal â gorfod talu £85 mewn costau llys a gordal o £40. 

Ond fe'i cafwyd yn ddieuog o ymosod.

“O’n i methu credu mod i mewn trwbl am dynnu het rhywun o’i ben. Dyna fy nhric parti i, cnocio het rhywun oddi ar ei ben a’i gwisgo,” meddai. 

Mewn cyfweliad gyda swyddogion yr heddlu, ychwanegodd Ms Rowlands nad oedd hi’n yfed alcohol yn aml ond ei bod yn ymddwyn “fel anifail” pan oedd hi’n gwneud. 

Nid oedd Mr Shortman yn bresennol yn y llys er mwyn rhoi tystiolaeth.

Dywedodd Duncan Campbell, cadeirydd Llys Ynadon Llandudno: “Mae’n amlwg eich bod chi wedi meddwi ac yn cael bach o hwyl. 

“Mater i'r erlyniad yw profi ei achos y tu hwnt i amheuaeth resymol eich bod yn bwriadu defnyddio grym wrth ymosod. 

“Mae’n dweud y cyfan bod Mr Shortman heb ddod i'r llys… Felly rydym yn eich cael yn ddieuog.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.