Newyddion S4C

Cleifion wedi parhau i ddioddef ‘poen difrifol’ ar ôl cael eu tynnu oddi ar restrau aros

25/01/2024
Llawdriniaeth

Cafodd cleifion sy’n parhau i ddiddef “poen difrifol” eu tynnu oddi ar restrau aros drwy gamgymeriad, yn ôl ymchwiliad.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nad oedd cleifion wedi cael “eu trin yn deg mewn perthynas â rheoli eu lle” ar restrau aros Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Roedd hynny oherwydd gwallau yn y ffordd yr oedd bwrdd iechyd wedi rheoli ei restrau aros am lawdriniaeth orthopedig, meddai hi.

Dywedodd yr ombwdsmon ei bod hi wedi lansio tair ymchwiliad ar wahân ar ôl derbyn cwynion am sut y cafodd y rhestrau aros eu rheoli.

“Dylai cleifion sydd eisoes yn wynebu amseroedd aros hir deimlo y gallant ddibynnu ar y Bwrdd Iechyd i reoli’r rhestr aros yn dda ac yn unol â’r canllawiau sy’n ymwneud â rhestrau aros,” meddai.

“Mae’r tri achos hyn yn dangos anghyfiawnder amlwg i’r cleifion. 

“Yn ogystal â’r methiannau hyn, cafodd yr achwynwyr eu rhoi trwy straen a phoen diangen yr asesiadau cyn-llawdriniaeth. 

“Rwy’n bryderus ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i effaith y rhain ar lesiant y cleifion.”

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod nhw wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

Y cleifion

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y methiannau canlynol yn ymwneud â rheoli’r rhestr aros:

Mrs B

Cafodd Mrs B ei chyfeirio i’r ysbyty yn 2018 am boen yn ei chlun dde ac eto yn 2021 am boen yn ei chlun chwith. 

Caewyd yr atgyfeiriad ar gyfer ei chlun chwith mewn camgymeriad, ond yn 2023 cafodd driniaeth ar ei chlun chwith (gan ei bod yn waeth o safbwynt glinigol). 

Cafodd ei thynnu oddi ar y rhestr aros ar gyfer ei chlun dde, er bod angen triniaeth arni o hyd. 

Mae Mrs B yn parhau i brofi poen difrifol yn ei chlun dde, ac ar ôl 5 mlynedd mae’n dal i aros o hyd iddi gael ei drin.

Mr C

Roedd Mr C wedi cael ei asesu fel angen llawdriniaeth o fewn mis, ond arhosodd am 43 mis (3 blynedd 7 mis) mewn poen difrifol. 

Yn ystod y cyfnod hwnnw, ailosodwyd ei safle ar y rhestr aros mewn camgymeriad a thynnwyd ei enw oddi ar y rhestr mewn camgymeriad hefyd.

Mr D

Tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr aros pan fethodd apwyntiadau llawfeddygol oherwydd ei fod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am salwch arall. 

Er gwaethaf y ddarpariaeth yn y canllawiau ar gyfer y math hwn o sefyllfa, tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr ac roedd yn aros i gael ei “drin yn ei dro” sy’n ymddangos fel pe bai y tu allan i’r broses.  

Derbyniodd Mr D driniaeth ym mis Ionawr 2024, 65 mis (mwy na 5 mlynedd) ar ôl cael ei ychwanegu at y rhestr aros am lawdriniaeth. Profodd Mr D lawer o boen, ac effeithiodd hyn yn sylweddol ar ei les.

Cododd y methiannau hyn bryderon yr Ombwdsmon ynglŷn â sut y cafodd y rhestrau aros cyfan eu rheoli.

Rhoddwyd yr achwynwyr hefyd trwy straen a phoen yr asesiadau cyn llawdriniaeth. O ganlyniad, codwyd eu gobeithion ar gam y byddai llawdriniaeth yn digwydd yn fuan.

Argymhellion

Gwnaeth yr Ombwdsmon yr argymhellion canlynol:

  • Dylai’r Bwrdd Iechyd adolygu’r penderfyniadau a wnaeth mewn cysylltiad â’r cleifion a’u safleoedd ar y rhestr aros.
  • Dylai’r Bwrdd Iechyd archwilio’r rhestr aros gyfan i sefydlu a oedd gwallau wedi’u gwneud ar yr amseroedd rhestrau aros neu a gafodd cleifion eraill eu tynnu’n amhriodol oddi ar y rhestr
  • Os felly dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i’r cleifion hynny a chywiro’r gwallau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.