Tony Blair a William Hague yn galw am werthu data'r gwasanaeth iechyd i gwmnïoedd AI
Mae Tony Blair a’r Arglwydd William Hague wedi galw am werthu data'r gwasanaeth iechyd i gwmnïoedd deallusrwydd artiffisial (AI).
Dywedodd y cyn Brif Weinidog a chyn arweinydd yr wrthblaid y byddai o gymorth i’r GIG wrth ddatblygu triniaethau newydd.
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Times dywedodd y ddau y gallai esgor ar “oes hynod newydd ym meysydd therapi genynnau, gwrthfiotigau a ffactrïoedd molecwlar”.
Fe ychwanegodd y ddau fod y GIG yn ffynhonnell werthfawr o ddata a bod angen darparu mynediad i gofnodion cleifion ar gyfer cwmnïoedd masnachol.
“Mae biotechnoleg yn addo dyfodol newydd ar gyfer llawer o afiechydon a gofal iechyd mwy personol ac effeithiol,” medden nhw.
“Ni fydd unrhyw beth yn bwysicach i swyddi, safonau byw a diogelwch Prydain yn y blynyddoedd i ddod nag arwain y byd ym meysydd gwyddoniaeth ac arloesi.
“Bydd yn rhaid i ni barhau i symud yn gyflym os ydym am fod yn un o brif gartrefi newidiadau mor ddramatig fel y byddant yn newid ein ffordd o fyw am byth ac yn ailstrwythuro llawer o’r economi fyd-eang.”
Dywedon nhw y byddai modd “sicrhau preifatrwydd wrth ddod â buddion enfawr i ymchwil, iechyd y cyhoedd a thriniaeth cleifion”.