Staff URC yn ‘obeithiol’ ond yn ‘flinedig’ wedi blwyddyn heriol
Mae Prif Swyddog Gweithredol newydd Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod staff y mudiad yn teimlo'n obeithiol am newid, ond wedi blino ar ôl blwyddyn anodd.
Dywedodd un o uwch swyddogion URC wrth ITV Cymru hefyd fod yr undeb wedi “methu â chysylltu’r dotiau” wrth nodi bod diwylliant gwenwynig wedi cydio yno.
Mae arweinwyr URC wedi bod yn wynebu cwestiynau gan Aelodau’r Senedd ar y Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon, yn dilyn adolygiad damniol o'r Undeb gafodd ei gyhoeddi fis Tachwedd diwethaf.
Fe wnaeth yr adroddiad yna gydnabod bod yna ddiwylliant eang o gasineb at fenywod a rhywiaeth o fewn yr Undeb.
Ymhlith y dystiolaeth yn yr adroddiad roedd cynrychiolydd o URC yn mynegi barn mai "dynion yw'r hil orchfygol" a bod clecs am sut roedd rheolwr benywaidd wedi "cysgu ei ffordd" i swydd.
Fe wnaeth gwybodaeth arall ddatgelu bod sylwadau sarhaus am fenywod mewn perthnasoedd o'r un rhyw i’w clywed o amgylch y sefydliad.
Newid trefn
Mae newid sylweddol wedi bod yn y ffordd y mae URC yn cael ei redeg. Mae bwrdd newydd wedi cael ei sefydlu, ac mae Abi Tierney wedi cymryd yr awenau fel Prif Swyddog Gweithredol yr Undeb.
Pan ofynnwyd iddi sut roedd hi’n crynhoi morâl staff fel rhywun sydd wedi ymuno yn ddiweddar, dywedodd: “Os gallai ddefnyddio ychydig o eiriau i ddisgrifio’r hyn rydw i wedi’i weld a’i deimlo, rwy’n meddwl bod 'gobaith’ yn un ohonyn nhw.”
Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod pobl yn wirioneddol obeithiol y bydd y newidiadau... a'r adolygiad yr ydym wedi mynd drwyddo yn eu galluogi i dynnu llinell a symud ymlaen mewn ffordd wirioneddol gadarnhaol. Felly, mae yna ymdeimlad gwirioneddol o obaith ac edrych ymlaen.
“Ond rwy’n meddwl bod hynny’n cael ei gydbwyso ag ymdeimlad gwirioneddol o flinder ac fe aethon nhw drwy lawer y llynedd."
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans