Newyddion S4C

Rhybudd bod nifer yr achosion o'r pâs wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru

23/01/2024
Babi'n peswch

Mae arbenigwyr meddygol yn annog menywod beichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod wedi’u brechu rhag y pâs, wedi i nifer yr achosion yng Nghymru gynyddu’n “sylweddol.” 

Mae nifer yr achosion o’r pâs (whooping cough) wedi cynyddu ar raddfa gyflymach na’r arfer yn ystod yr wythnosau diwethaf, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fu’n annog rhieni i amddiffyn eu plant rhag yr haint. 

Mae cynnydd naturiol yn yr haint bob tair i bedair blynedd, ond yn dilyn oedi i’r cylchrediad adeg y pandemig, mae nifer yr achosion wedi cynyddu i lefelau na welwyd ers rhwng 2012 a 2015. 

Dywedodd Dr Christopher Johnson, sef Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r pâs yn heintus iawn ac mae'n cael ei ledaenu drwy anadlu defnynnau bach yn yr aer o beswch a thisian pobl eraill. 

“Babanod o dan chwe mis oed sy'n wynebu'r risg fwyaf. Gall fod yn ddifrifol iawn ac arwain at niwmonia a niwed parhaol i'r ymennydd. 

“Mae babanod ifanc sydd â'r pâs yn wynebu risg o farw o'r clefyd.”

‘Amddiffyn’

Mae'r pâs yn haint o'r ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu a achosir gan facteria pertwsis Bordetella – ond mae’n glefyd y gellir ei atal drwy frechu. 

Fe ddaw alwadau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi i gyfradd brechu yn ystod beichiogrwydd gostwng o dros 80% i 70% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae brechlyn y pâs yn cael ei rhoi i fabanod yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed ond yn 2013, sefydlwyd rhaglen frechu hefyd i gynnig brechu’r pas i bob mam feichiog yn y DU o wythnos 16 - 32 o feichiogrwydd er mwyn amddiffyn babanod newydd-anedig nes eu bod yn ddigon hen i dderbyn eu brechlyn gyntaf.

Gan fod imiwnedd rhag y pas yn pylu dros amser, mae dos atgyfnerthu yn cael ei roi hefyd yn y pigiadau atgyfnerthu cyn oed ysgol, sef oddeutu dair oed, gyda'r nod o leihau'r pas mewn grwpiau oedran hŷn.

Ychwanegodd Dr Johnson: “Byddem yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu cynnig brechu pan gaiff ei roi, neu i ofyn i'w meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydynt yn credu nad ydynt efallai wedi ei gael.

“Mae'r amddiffyniad a gewch o'r brechlyn pertwsis yn ystod beichiogrwydd yn trosglwyddo i'ch babi heb ei eni ac yn amddiffyn y babi yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, tan iddo gael ei imiwneiddio rheolaidd cyntaf pan fydd yn ddeufis oed. 

“Mae'r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau'r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i'ch babi.” 

Mae disgwyl i labordai gadarnhau cynnydd yn unol ag adroddiadau o’r pas wrth i nifer yr achosion parhau i gynyddu, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.