Ysgol yn Lloegr yn dirwyo rhieni sydd yn hwyr i gasglu eu plant
Mae ysgol yn Lloegr wedi dechrau rhoi dirwynon i rieni sydd yn hwyr i gasglu eu plant.
Mae Ysgol Gynradd St Peter’s Church of England yng Nghaint wedi rhybuddio rhieni a gwarcheidwaid y gallen nhw wynebu tâl o £6 os ydyn nhw’n methu â chasglu eu plant o'r ysgol mewn pryd.
Daw hyn yn dilyn achosion cynyddol o rieni’n gadael eu plant heb adael i staff wybod.
Dan y cynllun newydd bydd y disgyblion sy'n cael eu gadael ar ôl yn cael eu rhoi mewn clybiau ar ôl ysgol a bydd y person sydd yn gyfrifol am eu casglu yn derbyn dirwy o £6.
Dywedodd cylchlythyr yr ysgol bod angen i rieni roi gywbod i staff os na fydden nhw'n gallu casglu eu plant mewn pryd.
“Mae gan staff waith i’w gwblhau unwaith y bydd plant wedi gorffen yn yr ysgol ac mae cyrraedd yn hwyr i gasglu eich plentyn yn atal staff rhag gallu bwrw ymlaen â’u gwaith.
“Mae gennym ni nifer cynyddol o blant sy’n cael eu casglu’n hwyr ar ddiwedd y dydd, heb hysbysu’r swyddfa nac unrhyw ymddiheuriad i’r staff.
“Rydym yn deall na ellir osgoi bod yn hwyr o bryd i’w gilydd a'r achosion am hyn, ac mae’n bwysig eich bod yn ffonio swyddfa’r ysgol, felly rydym yn gwybod eich bod yn rhedeg yn hwyr.”
'Annog'
Fe wnaeth cynghorydd y ward lleol Folkestone Harbour, Nicola Keen, leisio ei chefnogaeth i’r cynllun.
“Dw i ddim yn meddwl bod hyn yn afresymol oherwydd gall plant fod yn bryderus iawn os yw eu rhieni’n hwyr,” esboniodd.
“Nid yw’n cymryd yn hir i rieni roi gwybod i’r ysgol os ydyn nhw am fod yn hwyr. Rwy'n annog pob rhiant i gyfathrebu'n glir â nhw.
“Byddwn yn synnu’n fawr pe byddai’n rhaid i’r ysgol orfodi hyn mewn gwirionedd.
“Mae’r gofal bugeiliol yn yr ysgol hon yn hollol anhygoel.”
Mae Cyngor Sir Caint yn dweud ers i’r rheol newydd gael ei rhoi ar waith, “ni ofynnwyd i unrhyw riant wneud y taliad”.