Christopher Kapessa wedi marw ar ôl 'cael ei wthio yn fwriadol' i afon medd crwner
Mae crwner wedi dod i gasgliad naratif fod bachgen 13 oed wedi marw ar ôl 'cael ei wthio yn fwriadol' i Afon Cynon bedair blynedd yn ôl.
Bu farw Christopher Kapessa ar ôl y digwyddiad ger Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf ar 1 Gorffennaf 2019.
Roedd honiadau iddo gael ei wthio i Afon Cynon, ger Fernhill, gan fachgen arall.
Ni chafodd y bachgen, oedd yn 14 oed ar y pryd, ei erlyn. Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2020 na fyddai ei erlyn o fudd cyhoeddus.
Wrth gyflwyno ei gasgliadau ddydd Llun, dywedodd y Diprwy Grwner David Regan: “Yn fy marn i, fe gafodd Christopher ei wthio yn fwriadol o’r tu ôl gan y bachgen oedd yn defnyddio ei ddwylo.
“Fe wnaeth gweithredoedd y bachgen atal Christopher rhag cael y cyfle i benderfynu mynd i mewn i’r dŵr ai peidio. Does gen i ddim amheuaeth wrth ddod i’r casgliad na wnaeth Christopher ganiatáu i gael ei wthio i mewn i’r dŵr.”
Dywedodd mam Christopher, Alina Joseph, nad oedd ei mab yn nofiwr hyderus, ac fe ddechreuodd weiddi am help.
Fe wnaeth plant eraill, gan gynnwys y bachgen a wnaeth ei wthio i'r dŵr yn honedig, neidio i mewn a cheisio ei achub, ond diflannodd Christopher o dan arwyneb y dŵr.
Ychwanegodd y crwner: "Roedden nhw yn ddewr iawn i wneud hynny.
"Fe wnaeth y bachgen wthio Christopher i mewn i'r dŵr fel ychydig o hwyl, fel pranc."
'Trasiedi'
Disgrifiodd y crwner sut y gwnaeth Christopher ddisgyn i mewn i'r afon oedd yn 2.5 metr o ddyfnder, ac nad oedd yn gallu paratoi i fynd i mewn i'r dŵr.
Yn ôl Mr Regan, mae'n debygol fod Christopher wedi dioddef sioc dŵr oer a fyddai wedi arwain at lyncu dŵr yn anwirfoddol.
Mewn datganiad wedi'r cwest, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wastad wedi datgan yn glir y rhesymau pam na fu cyhuddiadau wedi marwolaeth Christopher Kapessa.
Dywedodd Jenny Hopkins, prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron : “Roedd marwolaeth Christopher yn drasiedi na ellir ei hamgyffred, ac mae ein meddyliau yn dal i fod gyda'i deulu.
“Ry'n ni wastad wedi nodi'n glir pam nad oedd ein profion yn cwrdd â'r canllawiau i gyhuddo rhywun mewn cyswllt a'r achos torcalonnus hwn."
Ar ran Heddlu'r De, dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards: “Mae marwolaeth drasig Christopher Kapessa wedi syfrdanu'r gymuned leol.
“Mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, sydd wedi archwilio ein hymateb a'n hymchwiliad i farwolaeth Christopher. "