Dyn 44 oed o'r gogledd wedi marw ar ôl disgyn oddi ar fferi ger Lerpwl
22/01/2024
Mae dyn 44 oed oed o'r gogledd wedi marw ar ôl disgyn oddi ar fferi ger Lerpwl.
Fe gafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar fferi Stena Estrid a oedd yn teithio o Belfast i Benbedw fore Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod y dyn wedi marw ychydig yn ddiweddarach.
Daeth adroddiadau am y digwyddiad tua 08:15 fore Sadwrn ac roedd yr ymdrech achub yn cynnwys criwiau o Gymru, gan gynnwys Bad Achub Y Rhyl a chriwiau o ogledd Lloegr.
Dywedodd yr heddlu nad ydy'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae dogfen yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner.
Mae teulu agos y dyn wedi cael gwybod.