Apêl heddlu yn dilyn adroddiadau o geisio herwgipio
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad lle ceisiodd dyn lusgo menyw i mewn i gar yn Llanelli ddydd Sadwrn.
Dywedodd y llu eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad ar ôl iddynt dderbyn galwadau am tua 23:45 nos Sadwrn.
Dywedodd y llu fod dyn wedi mynd at y fenyw mewn car coch tywyll wrth iddi gerdded o glwb y Lleng Brydeinig ar Ffordd Tan y Graig yn Llanelli.
Yn ôl adroddiadau roedd gan y dyn wallt tywyll ac acen nad oedd yn un lleol.
Gofynnodd iddi fynd i mewn i’r car ac ar ôl iddi wrthod fe geisiodd ei llusgo i mewn.
Dywedodd yr heddlu ei bod hi wedi dianc i dŷ cyfagos.
Fe ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu; “chafodd hi ddim niwed ond yn amlwg mae’r digwyddiad wedi ei brawychu hi.
Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.
Llun: Heddlu Dyfed-Powys