Newyddion S4C

Diffyg twf yr economi yn cael 'effaith andwyol' ar draws y DU

22/01/2024
arian

Mae gan bobl yn y DU £10,200 yn llai i wario neu wedi ei harbed ar gyfartaledd ers 2010 na’r cyfnod cyn hynny, yn ôl ymchwil.

Yn ôl astudiaeth gan The Centre for Cities, nid oes un rhan o’r DU wedi osgoi effaith “gwastadu” yr economi ers 2010.

Mae’r ymchwil sydd wedi cymharu 63 o ddinasoedd ar draws y DU yn dangos fod pob un “allan o boced”.

Roedd incwm gwario (gros) i bob person yn £13,080 yn llai yng Nghaerdydd ar gyfartaledd gyda’r ffigwr yn £13,590 yn Llundain.

Dywedodd yr adroddiad fod costau byw wedi cynyddu yn y rhan fwyaf o lefydd gan effeithio’n andwyol ar incwm gwario.

Tlodi Plant

Yn ôl yr ymchwil roedd cyfraddau'r plant mewn tlodi wedi cynyddu mewn bron pob dinas yn y DU.

Dywedodd Prif Weithredwr Centre for Cities, Andrew Carter: “Mae’r ddwy brif blaid wleidyddol wedi ymrwymo tuag at dwf economaidd.

"Yr her i’r llywodraeth nesaf fydd i fynd tu hwnt i rethreg a gwneud yr hyn sydd angen i wneud hyn yn realiti.

“Mae ein dinasoedd yn gyfrifol am 9% o’r tir a thros 60% o’r economi yn ogystal â 72% o swyddi uwch fedrus.

“Mae’r arafwch economaidd yn ein dinasoedd wrth wraidd y rheswm pam mae ein heconomi yn cael trafferth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.