Newyddion S4C

Cynlluniau i stopio dosbarthu llythyrau’r Post Brenhinol ar ddydd Sadwrn

20/01/2024
Post

Mae’r rheoleiddiwr Ofcom yn cynnig opsiynau ar gyfer newid trefn y Post Brenhinol fydd yn paratoi’r ffordd i ddod â dosbarthu ar ddydd Sadwrn i ben.

Fe fydd Ofcom yn cyflwyno dogfen ymgynghori’r wythnos nesaf wrth i’r Post Brenhinol rybuddio fydd angen cymhorthdal gan lywodraeth y DU er mwyn parhau i weithredu.

Yn ôl Sky News mae’r ddogfen ar ddyfodol gwasanaethau Post Brenhinol yn cynnwys diwygiadau fel newid targedau dosbarthu llythyron dosbarth cyntaf ac ail; dilyn gwledydd fel Yr Almaen a’r Eidal sy’n dosbarthu am yn ail ddiwrnodau, darparu cymhorthdal i gefnogi dosbarthiadau a chynnydd ym mhrisiau stampiau.

Mae newid gorfodaeth y Post Brenhinol i ddosbarthu chwe diwrnod yr wythnos i strwythur pum diwrnod hefyd dan sylw, yn ôl adroddiadau.

Mae’r Post Brenhinol wedi gofyn am newidiadau i’w strwythur statudol gan ddadlau fod y system ar gyfer dosbarthu 20 biliwn o eitemau yn flynyddol nawr yn delio gyda saith biliwn y flwyddyn ac yn debygol o ostwng ymhellach i bedwar biliwn o fewn pum mlynedd.

Ym mis Tachwedd y llynedd cafodd y Post Brenhinol ddirwy o £5.6m gan y Ofcom, am fethu â chyrraedd eu targedau dosbarthu.

Yn ôl Ofcom, nid oedd y Post Brenhinol wedi cyrraedd eu targedau dosbarthu Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth ym mlwyddyn ariannol 2022/23.

O dan reolau Ofcom, mae’n ofynnol i’r Post Brenhinol ddosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith a 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith, bob blwyddyn.

Yn 2022/23, dangosodd canlyniadau perfformiad y Post Brenhinol mai dim ond 73.7% o bost Dosbarth Cyntaf cafodd eu dosbarthu ar amser, gyda 90.7% o bost Ail Ddosbarth yn cael ei ddosbarthu ar amser.

Rhaid iddynt hefyd gwblhau 99.9% o’r llwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod y mae angen dosbarthu.

Nid oedd y Post Brenhinol wedi cyrraedd y targed hwn chwaith wrth iddyn nhw ond gwblhau 89.35% o’r llwybrau dosbarthu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.