Pedwar o'r un teulu wedi eu darganfod yn farw mewn tŷ ger Norwich
Mae corff dyn, menyw a dwy ferch ifanc wedi’u darganfod yn farw mewn tŷ ger Norwich fore Gwener, meddai’r heddlu.
Dywedodd Heddlu Norfolk fod swyddogion wedi gorfodi eu ffordd i mewn i dŷ yn Allan Bedford Crescent, Costessey, toc cyn 07:00 yn dilyn galwad gan aelod o’r cyhoedd.
Bellach mae'r heddlu'n dweud mai dyn 45 oed, menyw 36 oed dwy ferch ifanc oedd y rhai a fu farw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Burgess: “Rydym yn credu eu bod i gyd yn aelodau o’r un teulu.
“Rydym yn credu bod tri o’r bobol yn byw yn y cyfeiriad ac un arall ddim yn barhaol.
“Mae ein hymchwiliad yn y camau cynnar iawn ac mae hwn yn amlwg yn ddigwyddiad trallodus a thrasig iawn.
“Tra ein bod ni’n parhau gyda'r broses ymholi, ar hyn o bryd rydyn ni’n credu bod hwn yn ddigwyddiad ynysig.
“Rwy’n deall y bydd newyddion am y digwyddiad hwn yn ysgytwol i’r gymuned leol a chyn gynted ag y gallwn, byddwn yn rhyddhau mwy o wybodaeth.”
Mae cordon yn ei le ac mae ditectifs o heddluoedd Norfolk a Suffolk yn arwain yr ymchwiliad.