Darganfod babi newydd-anedig mewn bag siopa
Mae babi newydd-anedig yn derbyn gofal yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod mewn bag siopa ar noson oer.
Mae'r heddlu yn ceisio dod o hyd i fam y ferch fach, gan ddweud y bydd hi angen sylw meddygol brys.
Fe gafodd y ferch fach ei darganfod wedi ei gorchuddio mewn tywel ac mewn bag yn Newham yn nwyrain Llundain mewn tywydd rhewllyd nos Iau yn ôl Heddlu'r Met.
Fe wnaeth tymhereddau ostwng mor isel â -4C yn Llundain nos Iau yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Ond dywedodd yr heddlu fod y babi yn iach ac heb ei anafu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Crick: "Wrth feddwl yn gyflym, fe gadwodd y person a wnaeth ddarganfod y ferch fach hi'n gynnes nes i weithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Llundain gyrraedd a’i gwirio cyn mynd â hi i’r ysbyty.
"Dwi mor hapus fy mod yn gallu adrodd na chafodd ei hanafu mewn unrhyw ffordd ac mae hi yn ddiogel ac yn iach yng ngofal yr ysbyty.
"Rwy’n ddiolchgar i’r aelodau o’r cyhoedd a arhosodd yn y lleoliad i siarad â swyddogion a meddygon - fe wnaeth eich gweithredoedd gyfrannu at achub bywyd y babi.
"Mae ein meddyliau yn troi rwan at fam y babi; rydym yn hynod o bryderus am ei lles gan ei bod hi wedi dioddef llawer ac fe fydd angen sylw meddygol brys arni wedi'r enedigaeth."