Cynghorau Cymru'n wynebu dyledion o £5.6 biliwn
Mae gan gynghorau ledled Cymru ddyledion o dros £5 biliwn ar hyn o bryd, yn ôl adroddiad newydd.
Ac mae hyn yn sicr o gael effaith "eithafol a thymor hir" ar wasanaethau lleol, yn ôl rhai gwleidyddion.
Daeth y ffigyrau i'r amlwg yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd San Steffan.
Ar hyn o bryd, mae gan gynghorau ledled y DU ddyledion o £97.8 biliwn i wahanol fenthycwyr - swm sy'n cyfateb i £1,455 am bob person.
Mae arweinwyr awdurdodau lleol yn dweud bod blynyddoedd o danwariant gan y Llywodraeth yn ganolog wedi eu gorfodi i gymryd benthyciadau a buddsoddi mewn eiddo masnachol, er mwyn cynnal gwasanaethau lleol.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Meg Hillier: "Mae rhai o'r enghreifftiau o ddyledion enfawr awdurdodau lleol yn gwbl anhygoel, a mae'r effaith ar drigolion yn sicr o fod yn eithafol ac yn dymor hir."
Mae lefel y dyledion ar gyfartaledd yn îs yng Nghymru nac yn Lloegr, gyda dyledion o £5.6 biliwn rhwng y 22 cyngor Cymreig.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod hynny ohewydd nad ydi cynghorau Cymru wedi benthyg cymaint ar gyfer cynlluniau masnachol.
Cyngor Caerdydd sydd â'r ddyled mwyaf yng Nghymru; ychydig dros £858 miliwn. Cyngor Abertawe sydd yn ail, gyda dyledion o bron i £694 miliwn.
Merthyr sydd â'r ddyled isaf; ychydig dros £94 miliwn.
Ond dywedodd Chris Weaver, aelod cabinet cyngor Caerdydd sydd a chyfrifoldeb am gyllid, bod y sefyllfa yn y ddinas dan reolaeth.
"Mae'r rhan fwyaf o'r ddyled yn ymwneud â buddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion newydd a thai cyngor newydd," meddai.
"Mae gennym ni gynlluniau i adeiladu 4,000 o gartrefi newydd i helpu daclo'r argyfwng tai, a rydym yn adeiladu ysgolion newydd ar hyd a lled y ddinas i gymryd lle'r ysgolion sydd wedi dod i ddiwedd eu bywyd naturiol."