Cyhuddo dyn 39 oed ar ôl ymosodiad ym Mhorthaethwy
18/01/2024
Mae dyn 39 oed wedi cael ei gyhuddo o anafu ar ôl ymosodiad ym Mhorthaethwy.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y digwyddiad wedi digwydd ar Lôn Cylbedlam yn y dref ddydd Mercher.
Mae Kevin Humphrey Jones o Borthaethwy wedi cael ei gadw yn y ddalfa, ac fe wnaeth ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau.