Newyddion S4C

'Dim teimlad gwell' na chynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Bêl-droed byddar Ewrop

18/01/2024

'Dim teimlad gwell' na chynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Bêl-droed byddar Ewrop

Does yna "ddim teimlad gwell" na chynrychioli Cymru yn ôl un fydd yn gwneud hynny ym Mhencampwriaeth Bêl-droed byddar Ewrop eleni. 

Fe fydd Ifan Roberts, sy'n wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn byw ym Mryste, yn cynrychioli Cymru ym mis Mai pan fydd Pencampwriaeth Bêl-droed byddar Ewrop yn cael ei chynnal yn Nhwrci. 

Mae angen i'r chwaraewyr ariannu'r daith eu hunain, ac fe fydd Ifan yn codi arian drwy gwblhau Her y Tri Chopa, sef dringo mynyddoedd Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan, mewn 24 awr ddiwedd Mawrth.

"Ma' hyn yn bwysig iawn i gael bach o awareness i'r twrnament oherwydd gan bod ni gyd allan yn fan 'na, 'dan ni'n dangos i bobl 'dan ni'n chwarae pêl-droed i'n gwlad ni so ma' plant bach yn sbio ar ni gyd a meddwl 'Ma' heina yn gallu chwara' pêl-droed i'w gwlad nhw a dwi'n gallu neud yr un peth' so ma'r plentyn yna wedyn yn meddwl bo' nhw yn gallu neud o," meddai wrth Newyddion S4C. 

"Dyna pam ma'n bwysig, dim hyd yn oed jyst plant, mae o i bobl hefyd, oedolion, felly dyna pam dwi'n meddwl bod o'n bwysig ag wrth i ni gael hyn dros social media, 'dan ni 'di cael lot o negeseuon yn barod yn deud bod eu plant nhw yn fyddar ac eu bod nhw yn edrych ymlaen i drio am Gymru yn y dyfodol." 

'Teimlo fel bo' chdi adra'

Mae'n 'deimlad arbennig' pan fydd y tîm yn dod at ei gilydd i chwarae ac ymarfer yn ôl Ifan. 

"Ma' ni gyd yn dod at ein gilydd, ma' genna ni rwbath cyffredin efo'n gilydd a ti'n teimlo fel bo' chdi adra, ti'm yn goro poeni am ddim clywad, na neb yn sbio arna chdi mewn ffordd wahanol a ddim yn trin chdi mewn ffordd wahanol, ma' pawb yr un peth," meddai. 

Image
Ifan

"Dyna pam ma'n bwysig bo' ni gyd yn dod at ein gilydd, ma' pawb yn dod o bob man ym Mhrydain, o Gymru wrth gwrs, a wedyn dod at ein gilydd wedyn - mae o bob tro yn sbeshial."

Mae'r tîm yn ymarfer unwaith y mis yng nghanolfan Parc y Ddraig, ac mae'r tîm cenedlaethol yn ymarfer yma hefyd, a hynny drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

"'Dan ni'n gallu chwarae pêl-droed mewn lle mor ardderchog oherwydd dyma'r facilities lle ma' Gareth Bale, Aaron Ramsey wedi bod a 'dan ni'n cael bod yna, ma'n rwbath sbeshial.  

'Lwcus iawn'

Er bod yna sialensau, mae Ifan yn ddiolchgar iawn am deulu a ffrindiau arbennig. 

"Ma' 'na lot o sialensau a gorfod meddwl o flaen llaw, ag er bod hyn i gyd yn sialens, o'n i'n lwcus iawn i gael teulu mor grêt a'r gefnogaeth mwya' fyswn i'n gallu meddwl am, a ffrindiau a felly o'n i ddim yn unig o gwbl," meddai.

Image
Ifan

"Dyna pam ma' be' 'dan ni'n neud wan yn bwysig oherwydd dydi pobl eraill ddim mor lwcus.

"Sbio nôl wan fel oedolyn, dwi'm yn meddwl ddylsa fi 'di stressio am lot o betha ag o'n i jyst yn overthinkio mwy na'm byd ond ti'm yn gwbod dim byd gwell pan ti'n blentyn."

Mae bellach yn byw ym Mryste ers pedair blynedd yn gweithio i gwmni Rolls-Royce, a hynny ar ôl iddo gwblhau prentisiaeth gyda RAF Fali a Choleg Menai. 

"Dwi yn lwcus iawn i fod yn gwneud y swydd dwi yn wan, ag i gael y swydd, nes i neud prentisiaeth yn RAF Fali a Coleg Menai a ges i gefnogaeth grêt genna nhw," meddai.

"Oedd 'na lot o sialens efo hynna hefyd ond dwi efo hyder wan i ddeud bo' fi'n fyddar a methu clywed, dio'm yn broblem i fi a nawn ni weithio trwydda fo.

"Sbio nôl ŵan, mae o'n un o'r petha gora dwi 'di neud, symud lawr i Bristol pedair mlynadd yn ôl a heb sbio nôl."

'Anodd'

Ychwanegodd Ifan bod yna heriau ar adegau wrth geisio cyfathrebu gyda chwaraewyr eraill ar y cae. 

"I fod yn onasd, mae o'n anodd. Mae 'na sawl ffordd o fod yn fyddar, genna chdi pobl sydd ddim yn clywed dim a sy'n signio trwy'r adeg drwy British Sign Language, a wedyn ma' gen ti rai sy'n clywed dipyn ond yn dibynnu ar sign language a wedyn ma' gen ti fel fi, lle dwi'n gallu cyfathrebu efo pawb ond ddim digon byddar i ddibynnu ar signio," meddai. 

"So pan 'dan ni'n chwarae pêl-droed, mae o dipyn bach o mixture o players gwahanol lle ma' lot ohonyn nhw methu clywad, gen ti rei fatha fi sydd yn gallu clywad so ma' 'na language barrier

"Ond erbyn rwan, gan bo' ni wedi bod yn ymarfer lot mwy efo'n gilydd, 'dan ni'n dod i arfer efo'n gilydd, a dyna pam ma'r pres 'dan ni'n gasglu yn mynd tuag at gael yr ymarfer. Ma' genna ni interpretator pan 'dan ni'n chwara i gyfieithu hefyd."

Image
Ifan
Byddai Ifan yn dweud wrth ei hun yn iau i beidio gor-feddwl a phoeni.

O nerth i nerth

Er mai dim ond ym mis Ionawr y llynedd y sefydlwyd y tîm, maen nhw'n mynd o nerth i nerth yn ôl Ifan. 

"Erbyn hyn, 'dan ni'n 26 chwaraewr, so ma' 'na lot fwy o sialens a'r unig rheswm natho ni gael mwy o chwaraewyr oedd achos natho ni chwarae yn erbyn Iwerddon, Lloegr a'r Alban a wedyn nath hyn gael ei rannu ar social media a wedyn oedd pawb arall yn gallu gweld be oeddan ni'n neud," meddai. 

"Dyna pam ma' hyn yn bwysig bo' ni'n gallu rhannu ar social media, so ia, 'dan ni'n squad mawr a gobeithio fyddai'n dechra pan fyddan ni'n chwarae yn Nhwrci."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.