A yw'r arwydd hynaf o fywyd ar y blaned wedi'i ddarganfod yn Sir Gâr?
Gall ffosiliau sydd wedi’u darganfod mewn chwarel yng ngorllewin Cymru fod yr arwydd hynaf o fywyd cymhleth yn y byd.
Mae technegau newydd, a ddefnyddiwyd gan ymchwilwyr, yn galluogi i’r ffosiliau a gafodd eu darganfod mewn chwarel yn Sir Gaerfyrddin, gael eu dyddio yn fanwl gywir am y tro cyntaf erioed.
Wrth eu gosod ar linell amser hanesyddol, mae ymchwilwyr yn dweud eu bod nhw’n gallu nodi cyfnod allweddol yn natblygiad yr anifeiliaid cyntaf ar y Ddaear.
Yn ôl gwyddonwyr, mae creaduriaid sy’n ymdebygu i’r sglefren-fôr yn rhan o’r dystiolaeth gynharaf sydd wedi ei darganfod o organebau sydd â mwy nag un gell.
Dywedodd prif awdur yr ymchwil, y myfyriwr PhD Anthony Clarke, o’r grŵp Timescales of Mineral Systems, fod ymchwilwyr wedi defnyddio haenau o lwch llosgfynydd i ddyddio’r ffosiliau.
Fe wnaeth Clarke ychwanegu bod Chwarel Coed Cochion yn cynnwys y “bywyd morol bas cyfoethocaf ym Mhrydain” a thrwy ddefnyddio technegau newydd, roedd ymchwilwyr yn gallu dyddio’r ffosiliau i 565 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd: “Mae’r creaduriaid yma, mewn rhai ffyrdd, yn debyg i rywogaethau cyfoes fel y sglefren-fôr, ond mewn ffyrdd eraill yn rhyfeddol a dieithr. Mae rhai yn ymddangos fel y rhedynen, eraill fel bresychen, tra bod rhai arall yn ymdebygu i fôr-bennau (sea pens).”
'Cysylltiad dwfn'
Fe wnaeth yr Athro Chris Kirkland, cydawdur yr ymchwil, ychwanegu: “Mae’r ffosiliau Cymreig yma yn ymddangos yn debyg iawn i ffosiliau enwog o Ediacara yn Ne Awstralia.
“Mae’r ffosiliau, gan gynnwys creaduriaid siâp-disc fel yr Aspidella Terranovic, yn arddangos yr hyn sydd ymysg y dystiolaeth gynharaf o organebau amlgellog ar raddfa fawr, gan nodi moment drawsffurfiol yn hanes biolegol y Ddaear.
“Mae ffosiliau Ediacaraidd yn cofnodi ymateb bywyd i’r dadmer o rewlifiant byd-eang, sy’n dangos y cysylltiad dwfn rhwng prosesau daearegol a biolegol.”
Fe ychwanegodd: “Mae ein hymchwiliad yn pwysleisio’r pwysigrwydd o ddeall yr ecosystemau hynafol yma er mwyn datrys dirgelion gorffennol y Ddaear a siapio ein dealltwriaeth o esblygiad bywyd.”
Llun gan Anthony Clarke