Newyddion S4C

Cwest yn clywed nad oedd tystiolaeth o hiliaeth yn achos marwolaeth Christopher Kapessa

17/01/2024
Christopher Kapessa

Doedd dim tystiolaeth o hiliaeth yn achos marwolaeth bachgen 13 oed a foddodd mewn afon, mae cwest wedi clywed. 

Bu farw Christophe Kapessa wedi digwyddiad yn afon Cynon ger Aberpennar yng Nghwm Cynon ar 1 Gorffennaf 2019. 

Mae honiadau iddo gael ei wthio i'r afon. 

Mae tystion wedi dweud yn Llys y Crwner ym Mhontypridd fod bachgen arall, a oedd yn 14 oed ar y pryd wedi gwthio Christopher i mewn i'r afon. 

Mae'r bachgen sydd bellach yn 19 oed, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol wedi mynnu yn y cwest iddo syrthio yn ddamweiniol yn erbyn Christopher ac nad oedd e wedi ei wthio yn fwriadol i mewn i'r afon.  

Clywodd y gwrandawiad i Christopher fynd i banig a gweiddi am gymorth, ac fe neidiodd plant eraill i mewn i'r afon i geisio ei achub, cyn iddo ddiflannu o dan wyneb y dŵr. 

Cyrhaeddodd y gwasanaeth brys y safle a chafodd Christopher ei dynnu o'r afon am 19.25 y noson honno.

Daeth cadarnhad yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ei fod wedi marw'n ddiweddarach.  

Wrth roi tystiolaeth yn y cwest ddydd Mercher, eglurodd y Ditectif Brifarolygydd Matt Powell o Heddlu'r De mai fe oedd yn arwain yr ymchwiliad.  

Dywedodd bod yr argraffiadau cyntaf gan y rhai a oedd yn bresennol yn awgrymu i Christopher "syrthio i'r dŵr" ac nad oedd unrhyw awgrym ei fod wedi cael ei wthio neu unrhyw weithred debyg. 

Ond roedd sïon yn yr ysgol lle roedd Christopher yn ddisgybl bod y bachgen arall yn honedig wedi ei wthio i mewn i'r afon, meddai Mr Powell .  

Cafodd y rhai oedd yn bresennol eu holi unwaith yn rhagor gan yr heddlu.  

Gofynnwyd i Mr Powell a oedd tystiolaeth fod bwlio wrth wraidd y digwyddiad.

 “Nac oedd", atebodd Mr Powell, "Wnes i ddim dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o hynny."  

“Yn sicr doedd dim tystiolaeth o hiliaeth," meddai. 

Ychwanegodd Mr Powell bod adroddiadau anghywir wedi eu cofnodi ar y pryd am ei farwolaeth.

Mae'r cwest yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.