Ad-daliad gwerth £1.2 miliwn i deithwyr Wizz Air
Ar ôl gwrthod eu cais am ad-daliad yn wreiddiol, bydd cwmni awyrennau Wizz Air yn gorfod talu cyfanswm o £1.2 miliwn i gwsmeriaid, yn ôl rheoleiddiwr y diwydiant.
Cyhoeddodd yr Awdurdod Hedfan Sifil fod ceisiadau wedi eu hail-asesu a bod taliadau ychwanegol wedi eu cyflwyno yn sgil oedi neu darfu mewn tua 6,000 o achosion. Cafodd cyfanswm o 25,000 o geisiau eu hail-archwilio.
Daeth Wizz Air â'u gwasanaeth ym Maes Awyr Caerdydd i ben yn Ionawr 2023, gwta naw mis ers iddyn nhw ddechrau hedfan oddi yno yn Ebrill 2022.
Mae'r cwmni o Hwngari wedi gwella'r modd y mae'n delio â cheisiadau am ad-daliadau bellach yn ôl y rheoleiddiwr, gan gyflwyno proses ad-daliad awtomatig.
Dechreuodd yr awdurdod roi pwysau ar Wizz Air fis Gorffennaf diwethaf, ar ôl i nifer o deithwyr gwyno nad oedd y cwmni yn cwrdd â'u hymrwymiad cyfreithiol wedi i'w hediadau gael eu canslo.
Mae cwmniau hedfan sy'n canslo hediadau i fod i dalu am gost hediadau eraill yn eu lle.
Dywedodd cyfarwyddwr yr Awdurdod Hedfan Sifil, Paul Smith: “Mae hwn yn newyddion da i deithwyr ac mae ein pryderon wedi eu cadarnhau yn sgil y canlyniad hwn.
"Ry'n ni'n croesawu'r camau hyn gan Wizz Air. Mae angen i gwmnïau hedfan ofalu am eu teithwyr a chydnabod eu hawliau pan gaiff hediadau eu canslo neu pan fo oedi."
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wizz Air UK, Marion Geoffroy: “Ry'n ni'n falch fod yr Awdurdod wedi cydnabod y camau sylweddol y mae Wizz Air wedi eu cymryd i wella perfformiad ar gyfer ein cwsmeriaid.
“Fel pob cwmni hedfan yn Ewrop, bu'n rhaid i ni wynebu heriau digynsail yn ystod haf 2022, ond mae'r gwelliannau rydym wedi eu cyflwyno wedi arwain at brofiad gwell i gwsmeriaid."
Wizz Air berfformiodd waethaf yn y Deyrnas Unedig yn 2021 a 2022 wrth ystyried hediadau hwyr.