Dynes o flaen Llys y Goron ar gyhuddiad o lofruddio bachgen saith oed
16/01/2024
Mae menyw 42 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi ei chyhuddo o lofruddio bachgen saith oed yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Ymddangosodd Papaipit Linse, drwy gyswllt fideo o garchar Eastwood Park.
Yn y gwrandawiad byr, fe gadarnhaodd ei henw trwy gyfieithydd.
Cafodd ei chyhuddo o lofruddio Louis Linse, ddydd Gwener diwethaf.
Cafodd ei harestio ddeuddydd ynghynt wedi i swyddogion gael eu galw i gyfeiriad yn Heol y Farchnad Uchaf, Hwlffordd.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys yn ddiweddarach fod bachgen ifanc wedi marw yno.
Cafodd Papaipit Linse ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar 27 Chwefror.