'Traddodiad balch' neu 'wastraff arian'? Llun newydd o’r Brenin ar gyfer adeiladau cyhoeddus y DU
Mae darlun newydd o’r Brenin Charles a fydd yn ymddangos mewn adeiladau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig wedi ei ddatgelu.
Bydd y cynllun i ddangos y llun o'r Brenin mewn adeiladau cyhoeddus yn costio £8m i Lywodraeth y DU, medden nhw.
Bydd modd i ysgolion, cynghorau, llysoedd, a’r gwasanaethau brys wneud cais am gopi o’r llun am ddim.
Cafodd y llun ei dynnu yng Nghastell Windsor gan y ffotograffydd Hugo Burnand a oedd yn gyfrifol am luniau’r Coroni a phriodas y Brenin a’r Frenhines Camilla yn 2005.
Dywedodd Swyddfa’r Cabinet bod arddangos llun o’r Brenin neu’r Frenhines mewn adeiladau cyhoeddus yn rhan o draddodiad y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Oliver Dowden: “Roedd esgyniad Ei Fawrhydi’r Brenin yn nodi pennod newydd yn ein stori genedlaethol.
“Bydd arddangos y portread newydd hwn yn ein hatgoffa ni i gyd o’r esiampl a osodwyd ganddo, ein gwas cyhoeddus pennaf.
“Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o sefydliadau cymwys â phosibl yn dymuno parhau â’r traddodiad balch Prydeinig hwn ac anrhydeddu teyrnasiad ein Brenin.”
‘£1 yn ormod’
Mae’r grwp Republic sy’n ymgyrchu yn erbyn cael Teulu Brenhinol wedi beirniadu'r gost gan ddweud ei fod yn “wastraff arian gwarthus”.
“Ar adeg pan mae’r mwyafrif o gynghorau lleol yn codi trethi ac yn torri gwasanaethau cyhoeddus, pan mae ysgolion ac ysbytai mewn trafferthion, byddai gwario hyd yn oed £1 ar y nonsens hwn yn £1 yn ormod,” meddai'r Prif Weithredwr, Graham Smith.
“Mae’r Llywodraeth wedi colli arnyn nhw’n llwyr os ydyn nhw’n meddwl bod pobol eisiau i’w harian gael ei wario ar luniau o Charles.
“Mae angen iddyn nhw roi’r gorau i’r cynllun hwn a chyfeirio’r arian lle mae ei wir angen.”