Adroddiadau bod un o gwmnïau cludo mwya'r Gogledd wedi mynd i'r wal
Yn ôl adroddiadau, mae un o gwmnïau cludo mwya'r gogledd, Gwynedd Shipping, wedi mynd i'r wal.
Mae Cyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn barod i roi cefnogaeth i bawb sydd â chyswllt â'r cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaergybi.
Mae adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod gweithwyr wedi cael llythyr diswyddo, a rhai wedi dechrau chwilio am swyddi eraill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Ynys Môn eu bod yn ymwybodol bod yna “drafferthion” a bod y cwmni wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ychwanegodd y cyngor sir y bydd yn gwneud popeth i geisio helpu.
Mae Gwynedd Shipping yn arbenigo ym maes cludo nwyddau i gwmniau adeiladu a chludo dur dramor.
Nos Lun, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru a'r aelod lleol yn y Senedd ym Mae Caerdydd, Rhun ap Iorwerth AS ei bod yn "aneglur iawn beth yw'r sefyllfa"
"Mae fy meddyliau ar hyn o bryd gyda'r gweithwyr sy'n wynebu ansicrwydd heno."
Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Mon yn San Steffan Virginia Crosbie : "Mae wastad yn destun pryder pan fo busnes yn cau a phobl o bosibl yn colli eu swyddi."
Mae gan Gwynedd Shipping swyddfeydd hefyd ar Lannau Dyfrdwy, Casnewydd, Dulyn a Belfast.
Y gred yw eu bod nhw'n cyflogi tu 50 o weithwyr yng Nghaergybi a rhagor yn eu canolfannau eraill.
LLUN: Gwynedd Shipping/X