Newyddion S4C

'Fi fydd yn etifeddu'r Fari nawr' Y balchder wrth drosglwyddo'r Fari Lwyd i'r cenedlaethau nesaf

ITV Cymru 16/01/2024
Mari Lwyd

Mae dyn sydd bellach yn geidwad y Fari Lwyd yn ardal Maesteg, wedi bod yn son am y pwysigrwydd o'i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ers saith mlynedd mae Anthony Bwye wedi bod yn gyfrifol am y Fari Lwyd yn Llangynwyd gyda'i ffrind Gwyn Evans. 

Ond mae Mr Evans bellach yn rhoi'r gorau i'r rôl ac yn trosglwyddo'r awenau yn llwyr i Anthony Bwye.   

Mae Mr Bwye wedi bod yn sôn am ei falchder wedi ymddangosiad diweddara'r Fari Lwyd yn Llangynwyd, Ddydd Sadwrn, 13 Ionawr, pan ddaeth y gymuned ynghyd i ddathlu’r Hen Galan, neu’r hen flwyddyn newydd.  

“Mae Gwyn wedi dweud mai fi fydd yn etifeddu’r Fari nawr, a gallaf barhau am ryw ugain mlynedd arall. Dwi’n gobeithio os dwi’n ffodus, bydd fy mab yn ei chario hi ymlaen, neu rywun o’r gymuned Gymraeg fan hyn," meddai Anthony Bwye.   

“Dwi’n edrych ymlaen bob blwyddyn at fynd â’r Fari mas. Mae wedi datblygu nawr ac mae yna fwy o ddiddordeb gan bobl weld y Fari ac mae’n ehangu llawer ar draws De Cymru hefyd."

Cafodd y Fair Lwyd, sef penglog ceffyl ei throsglwyddo i Gwyn Evans gan ei dad yn 1996. 

Mae’r cofnod ysgrifenedig cyntaf o’r Fari Lwyd yn dyddio’n ôl i lyfr J. Evans yn 1800, ‘A Tour through Part of North Wales,’ ac mae’r traddodiad yn gryf ym Mro Morgannwg  a hen siroedd Gwent.  

Image
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd sy’n dyddio’n ôl i 1873
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd sy’n dyddio’n ôl i 1873

Yn y 1930au a’r 40au, nododd  Iorwerth Peate, y llên-werinwr Cymreig, fod y traddodiad yn dal yn fyw yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Llangynwyd, Castell-nedd a rhannau eraill o Forgannwg, er gwaetha’r pryderon ei fod yn dechrau diflannu.

Er methiant i brofi gwreiddiau’r traddodiad, mae nifer yn credu, gan gynnwys Gwyn Evans, fod y Fari wedi dod o darddiad cyn-Gristnogol, paganaidd.

 

Image
Mari Lwyd

 

Priflun: Anthony Bwye (Chwith) Gwyn Evans (Dde)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.