Man Utd nesa? Noson enfawr yng Nghwpan FA Lloegr i Gasnewydd
Man Utd nesa? Noson enfawr yng Nghwpan FA Lloegr i Gasnewydd
Bydd Clwb Pêl-droed Casnewydd yn herio Eastleigh yng Nghwpan FA Lloegr nos Fawrth yn y gobaith o wynebu Manchester United yn y rownd nesaf.
Mae’r Alltudion yn teithio i Hampshire i ail-chwarae eu gêm yn y drydedd rownd, ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn y tîm o’r Gynghrair Cenedlaethol yn gynharach y mis hwn.
Wrth dynnu enwau allan o’r het ar gyfer pedwaredd rownd y gystadleuaeth, daeth i’r amlwg y byddai Casnewydd neu Eastleigh yn chwarae gartref yn erbyn Manchester United.
Mae rheolwr y tîm, Graham Coughlan, wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar y gêm hon yn unig, yn hytrach na meddwl ymlaen at y “pantomeim” fyddai ynghlwm â'r gêm yn erbyn y cewri o’r Uwch Gynghrair.
Dywedodd: “Gêm o bêl-droed yw hi, ac mae’n ddipyn o gamp i’r ddau dîm – Eastleigh a Chasnewydd – i ddal i fod yn y Cwpan erbyn yr adeg hon.
“Mae’r ddau clwb wedi gwneud yn dda iawn, ac fe fydd y ddau clwb eisiau gwthio ac ennill eu lle yn y rownd nesaf.
“Mae’r wobr yno, yr achlysur a’r diwrnod allan yno, ond mae angen canolbwyntio ar y gêm yn unig.
“Dydyn ni ddim angen meddwl am y pantomeim o’i gwmpas, am Manchester United, arian mawr, a phob math o nonsens – gêm bêl-droed yw hi.
“Rhaid i ni ganolbwyntio yn y gêm bêl-droed yma, 90 munud, falle 120, 11 yn erbyn 11, clwb yn erbyn clwb, dyna lle’r ydyn ni – dim mwy na llai na hynny.”
'Gobaith'
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Ben Murphy sy’n gefnogwr tîm pêl-droed Casnewydd ei fod yn gobeithio am fuddugoliaeth er gwaetha'r pwysau.
“Mae pawb yn efallai mynd yn gam rhy bell yn siarad am Manchester United, rhaid i ni guro Eastleigh yn gynta'," meddai.
“Ond mae’n hyfryd i weld. Ni ‘di gwerthu mas aways am Eastleigh, gwerthu mas yn Wrecsam – a gobeithio os ni’n curo nhw yfory wedyn byddwn ni’n gallu gwerthu mas Manceinion hefyd.
“Mae ‘na lot o pressure arnon ni ond ni ‘di resto cwpwl o players dros y penwythnos felly gobeithio byddan nhw’n itchan i fynd.
“Mae’r wobr mor enfawr byse’ unrhyw un moyn chwarae yn erbyn Manceinion felly dylse’ nhw fod yn barod i fynd.”
Wythnos fawr
Mae'r Alltudion yn teithio i Eastleigh gyda hyder yn dilyn buddugoliaeth 1-0 oddi cartref yn erbyn Doncaster Rovers ddydd Sadwrn.
Mewn wythnos fawr yn nhymor Casnewydd, bydd yr Alltudion hefyd yn croesawu Wrecsam i Rodney Parade mewn gêm gynghrair yn Adran Dau, ddydd Sadwrn.
Wedi'r gêm nos Fawrth, byddant yn gobeithio ymuno â'r Dreigiau ac Abertawe, a fydd yn wynebu Blackburn Rovers a Bournemouth ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Llun: Asiantaeth Huw Evans